Hysbysebu

Os ydych chi eisiau hysbysebu am brisiau cystadleuol yng nghylchgrawn Cara neu ar wefan Cara mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd.

Mae’n cael ei ddosbarthu dros Gymru gyfan gyda photensial gwerthiant o 1000+ ac mae gennym dros 400 o danysgrifwyr rheolaidd.

Dyma gyfle i chi gyrraedd cynulleidfa newydd.

Ein nod yw hyrwyddo busnesau a mentrau o bob cwr o Gymru sy’n adlewyrchu diddordebau ein darllenwyr ac ethos y cylchgrawn.

Fformat

Yn y fersiwn print (cylchgrawn Cara):

Anfonwch yr hysbyseb wedi’i dylunio’n barod, yn Gymraeg, ar ffurf pdf o ansawdd uchel (o leia 2MB), llawn lliw, gyda 5mm o waedu bob ochr.

  • Tudalen lawn: 260mm x 200mm
  • Hanner tudalen: 130mm x 200mm NEU 260mm x 100mm
  • Chwarter tudalen: 130mm x 100mm
  • Clawr ôl @ £250
  • Tudalen ddwbl @ £300
  • Tudalen lawn @ £200
  • Hanner tudalen @ £100
  • Chwarter tudalen @ £50

Yn ddigidol (gwefan Cara):

728 x 90 picsel, baner ar ffurf jpeg ac un linc i wefan allanol

  • 1 mis @ £150
  • 3 mis @ £400

Cysylltwch â cylchgrawncara@gmail.com i fynegi diddordeb a chael mwy o wybodaeth.

Cadwch lygad ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am brisiau bargen bob hyn a hyn!