Mae Sara Davies yn fam i efeilliaid ac yn Ymgynghorydd Cwsg.

(Cyhoeddwyd fersiwn o’r erthygl hefyd ar meddwl.org)

Fel mam i efeilliaid, dwi wedi cael fy siâr o nosweithiau heb gwsg. A dweud y gwir, dydy’r term “noson heb gwsg” ddim cweit yn disgrifio realiti’r diffyg cwsg ges i yn ystod fy nyddiau cynnar o fod yn fam. Roedd hyn yn fwy na chael fy neffro ganol nos ambell waith; roedd yn gylch didrugaredd o newid, bwydo, a chysuro, a’r cwbl yn fy ngadael i’n teimlo fel sombi yn chwilio’n daer am lymaid o goffi, neu’n well fyth, am noson iawn o gwsg.

Ond mae diffyg cwsg yn gallu mynd y tu hwnt i’r blinder corfforol yn unig. Yn aml iawn, dydy’r effaith mae’n ei gael ar iechyd meddwl mamau ddim yn cael ei ystyried. Yn y blog yma, mi fydda i’n trafod sut gall diffyg cwsg fod yn un o achosion sylfaenol problemau iechyd meddwl ymysg mamau, a pham mae hi’n hen bryd i ni daflu goleuni ar y mater hwn sy’n cael ei anwybyddu’n rhy aml o lawer.

Effeithiau Dinistriol Diffyg Cwsg

Rydyn ni i gyd wedi clywed y dywediad, “Cysga pan mae’r babi’n cysgu”. Wel, mae’n haws dweud na gwneud. Y realiti ydy bod diffyg cwsg yn gallu cael effaith ofnadwy ar lesiant meddyliol. Gall yr effeithiau amrywio o newid yn ei hwyliau a bod yn oriog, i gyflyrau mwy difrifol fel iselder a gorbryder ôl-enedigol.

Pan wyt ti’n rhedeg ar danc gwag drwy’r amser, nid dy gorff yn unig sy’n dioddef, ond dy feddwl hefyd. Gall diffyg cwsg arwain at fod yn fwy pigog, lefelau uwch o straen, a theimlad o fod wedi dy orlethu sy’n teimlo’n amhosib ei orchfygu. Fel mam newydd, roeddwn i’n aml yn teimlo fy mod yn sefyll ar ymyl dibyn anobaith, yn meddwl tybed fuaswn i fyth yn teimlo fel “fi” eto.

Camddiagnosis 

Un o ganlyniadau anffodus effeithiau diffyg cwsg ar iechyd meddwl yw’r camddiagnosis. Yn rhy aml, caiff mamau blinedig eu cyfeirio at eu meddyg teulu a chael meddyginiaeth i drin iselder neu orbryder. Er bod meddyginiaeth yn gallu bod yn achubiaeth i rai, mae’n hollbwysig inni ystyried gwraidd go iawn y symptomau hyn.

Ar fy siwrne i, fe wnes i sylweddoli efallai nad meddyginiaeth oedd ei angen fel opsiwn cyntaf ar lawer o famau a oedd yn chwilio am help gyda’u pryderon iechyd meddwl. Yn hytrach, mwy o gwsg oedd ei angen! Mae’n ateb syml, sy’n aml yn mynd heb ei ystyried, ac mae’n gallu gwneud byd o les.

Fy siwrne i tuag at fod yn Ymgynghorydd Cwsg

Fe wnaeth fy mhrofiad i fy hun o ddiffyg cwsg ar ôl cael gefeilliaid agor fy llygaid i bŵer cwsg. Wrth imi lywio’r heriau a ddaw wrth fagu dau fabi, deffrodd fy angerdd dros ddod o hyd i ffyrdd o helpu mamau fel fi gael y gorffwys mae cymaint o’i angen arnyn nhw. 

Fe wnes i benderfynu mynd yn ymgynghorydd cwsg ardystiedig, wedi fy arfogi â’r wybodaeth a’r strategaethau i helpu teuluoedd gael noson well o gwsg. Fy nghenhadaeth yw rhannu’r neges nad rhyw foethusrwydd yw noson dda o gwsg; ond rhywbeth cwbl hanfodol, yn enwedig i famau newydd.

Taflu Goleuni ar Ddiffyg Cwsg

Mae’n hen bryd i ni daflu goleuni ar y berthynas rhwng diffyg cwsg ac iechyd meddwl mamau. Er y gall meddyginiaeth fod yn arf hollbwysig wrth drin cyflyrau iechyd meddwl, dylem ystyried hefyd fynd i’r afael â’r mater sydd wrth wraidd y peth: y diffyg cwsg. Fel ymgynghorydd cwsg, dwi wedi gweld gyda fy llygaid fy hun sut gall rhywbeth mor syml â noson dda o gwsg adfer egni a llawenydd mam wrth iddi deimlo fel hi ei hun unwaith eto.

Felly, i bob mam sy’n brwydro nosweithiau heb gwsg, cofia nad wyt ti ar dy ben dy hun, ac mae ’na obaith. Chwilia am y gefnogaeth sydd ei angen arnat ti, a chofia efallai mai noson dda o gwsg ydy’r allwedd i adennill dy les ac ailddarganfod y chdi go iawn yng nghanol yr anhrefn hyfryd o fod yn fam.

@SaraDaviesSleepConsultant | sarasleep.com