Mae Yasmin Begum yn trafod pice ar y maen, a pha mor ddiflas fydden nhw heb y sbeisys a’r siwgr sydd wedi dod i Gymru o bellafoedd byd.

“Mae hanes eisoes yn eistedd yn y gadair yn yr ystafell wag pan fydd rhywun yn cyrraedd.”

Dionne Brand yn A Map to the Door of No Return 

Mae’r adeiladau yng Nghaerdydd yn adrodd straeon: rhai’n weladwy, rhai’n anweledig. Daw’r briciau coch ar adeilad Pierhead yn y Bae o Riwabon (ger Wrecsam), yn wreiddiol. Mae geiriau ar y briciau yn darllen “Wrth ddŵr a thân”, sef cyfeiriad at hanes pŵer stêm a glo ym Morgannwg. Mae’r Ganolfan Ddinesig wedi’i hadeiladu o garreg Portland, o Ynys Portland yn Dorset. Ydych chi’n wybod mai’r un garreg sydd wedi cael ei defnyddio i adeiladu Whitehall, a phencadlys y Cenhedloedd Unedig yn yr Unol Daleithiau? 

Mae o leiaf bedair siop pice ar y maen yng nghanol Caerdydd, sy’n cynnig amrywiadau llysieuol, fegan a halal. Mae Leroy wedi dechrau gwneud pice ar y maen wedi’u blasu â rỳm a thipyn o sbeis. Mae Leroy, sy’n hil-gymysg, ag etifeddiaeth Jamaicaidd a Chymreig, yn dod o Lanrhymni. Mae Llanrhymni, yn Nwyrain Caerdydd, hefyd yn gysylltiedig â’r Capten Harri Morgan, a oedd yn llywodraethwr Jamaica. Mae ardal o’r enw Llanrhymni yn Jamaica hyd heddiw. Des i ar draws Leroy am y tro cyntaf ym Marchnad Ffermwyr Insole Court. Daeth y teulu Insole yn gyfoethog drwy’r diwydiannau trwm – a buont yn gyfrifol am drychineb glofaol y Cymer, gan ladd 114 o fechgyn a dynion yn 1834. Yma, felly, daw hanes at ei gilydd: y geiriau ar y Pierhead, cyfoeth teulu Insole o’r dosbarth gweithiol gwyn, a’r pice ar y maen. Rydyn ni i gyd yn byw yng nghysgod hir y gorffennol Cymreig – hyd yn oed os nad ydyn ni’n sylweddoli hynny. 

Roedd fy hen nain, Gladys, yn dod o Gaerffili, ac yn coginio pice ar y maen. Roedd mam Gladys yn dod o Jamaica, ond wedi symud i Gymru. Roedd Gladys yn arfer gratio afalau yn ei phice ar y maen hi. Mae’n debyg bod yr afalau yn cadw’r gacen yn llaith. Rwyf wedi fy nghyfareddu gan brofiadau merched hil-gymysg a merched nad ydynt yn wyn fel fy nain yng Nghymru’r 20fed ganrif. Mae llawer o lyfrau, megis Land of my Mothers yn canolbwyntio ar gymunedau gwyn Cymreig, gyda bwlch enfawr ar ferched o liw yng Nghymru. Ond roedd fy hen nain yn Gymraes o liw, fel fi. Cafodd Gladys ei magu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ganwyd hi yn Abertawe yn y 1930au, gan symud i Gaerdydd, a bu’n gweithio fel landlady mewn tafarnau. Roedd gan Gladys ddementia pan oeddwn i’n blentyn: ond mae ei phice ar y maen yn chwedlonol. 

Mae pice ar y maen yn symbol traddodiadol o Gymru, yn enwedig adeg Dydd Gŵyl Dewi. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael bwffe dosbarth canol, heb weld pice ar y maen? Siwgr, blawd, menyn – dyna’r cynhwysion sylfaenol – ond mae cannoedd o amrywiadau. Maen nhw’n perthyn yn ddwfn yn niwylliant Cymru, oherwydd y dull hynod o bobi. Mae’r carreg bobi draddodiadol yn debyg i tawa: padell ffrio fawr, gron, fflat fel arfer, a ddefnyddir mewn coginio De Asiaidd i wneud roti, chapati, neu paratha (tebyg i grempog). Rhaid i ti ddefnyddio carreg/maen i wneud pice ar y maen, a rhaid i defnyddio tawa i bobi roti

Rwy’n ddiolchgar am waith Sara Minwel Tibbott – anthropolegydd ac ymchwilydd hanes llafar a llên gwerin. Dechreuodd weithio yn Sain Ffagan yn y 1960au, ac yn ddiweddarach hi oedd Ceidwad Cynorthwyol yn Adran Traddodiadau Llafar a Thafodieithoedd yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Cyhoeddodd Minwel gasgliad o ryseitiau, Amser Bwyd yn 1974 ac mae’r gyfrol allan o brint erbyn hyn. Ond mae’n bosib gweld 43 llun allan o’r llyfr ar wefan Casgliad y Werin Cymru. 

Mae ei chynhwysion yn galw am lard (sy’n waharddedig i bobl Iddewig a Mwslemiaid), a llond cwpan o siwgr. Does dim am hanes siwgr, na gwybodaeth am hanes trefedigaethol sbeisys, na sut y daethant i’r gegin Gymreig. 

Sylfaenodd Iorwerth C. Peate Amgueddfa Cymru ar 1af Gorffennaf 1948: yr un flwyddyn â’r Nakba (Y Drychineb) ym Mhalesteina. Dyma’r term i gyflwyno’r digwyddiadau a ddigwyddodd yn rhyfel Palesteina yn 1948, pan gafodd hanner y boblogaeth eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi. Ychydig fisoedd cyn hynny, yn 1947, gwahanwyd India’r Ymerodraeth Brydeinig i greu Pacistan ac India. Gorfodwyd tua 18 miliwn o bobl i symud a chafodd tua miliwn o bobl eu lladd. Roedd fy mhedair hen nain i ym Mengal, Pwnjab, Caerdydd, a Chaerffili yn 1948: ond does dim am lên gwerin neu fywyd pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig yn Sain Ffagan. 

Mae’r athronydd a’r damcaniaethwr diwylliannol, Stuart Hall yn dweud fel hyn yn yr ysgrif ‘Old and New Identities, Old and New Ethnicities’: 

‘People like me who came to England in the 1950s have been there for centuries; symbolically, we have been there for centuries. I was coming home. I am the sugar at the bottom of the English cup of tea. I am the sweet tooth, the sugar plantations that rotted generations of English children’s teeth. There are thousands of others beside me that are, you know, the cup of tea itself. Because they don’t grow it in Lancashire, you know. Not a single tea plantation exists within the United Kingdom. This is the symbolization of English identity – I mean, what does anybody in the world know about an English person except that they can’t get through the day without a cup of tea?’

Mae’n amhosib cael y siwgr yn y pice ar y maen heb gyfranogiad yr Ymerodraeth Brydeinig – a chynhwysion fel nytmeg a sinamon, a sbeisys eraill, neu de yn y bara brith. Rydyn ni’n dechrau gweld newid diwylliant yng Nghymru a’r drafodaeth yn symud ymlaen ar hil ac ethnigrwydd. Roedd Gurinder Chadha (Bend it Like Beckham) wedi gwneud ffilm ddogfen gyfoes cyn hynny o’r enw I’m British But…, yn 1989, yn archwilio treftadaeth, diwylliant ac amrywiaeth alltudion De Asia ym Mhrydain ar y pryd, gan gynnwys Cymru. Mae’n adrodd hanes un dyn Indiaidd-Gaianaidd sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf. Aeth ei hen daid o Pwnjab i Gaiana yn Ne America i weithio fel gwas dan gytundeb. Ar ôl diddymu caethwasiaeth yn 1833, roedd gan yr Ymerodraeth Brydeinig system caethiwed ymrwymedig o fewn y Caribî i barhau â’r gwaith yn y planhigfeydd siwgr. Roedd fy nheulu i’n gweithio mewn tecawê yng Nghwm Garw, yn debyg i brofiadau grwpiau diasporaidd hŷn, fel yr Eidalwyr, a ddaeth i Gymoedd De Cymru. Caeodd y caffi Eidalaidd olaf ym Mhontycymer yr un flwyddyn agoron ni ein tecawê: trosiad pwerus ar gymuned, symudiad, a diwylliant bwyd yng Nghymru. Mae yna ddwsinau o gofnodion perchnogion caethweision Cymreig yn y Legacies of British Slavery Database, a llawer o ddogfennau mewn archifau, fel Archif Morgannwg yng Nghaerdydd.

A person in a leather jacket

Description automatically generated

Llynedd, roedd drama Trouble in Butetown yn y Donmar Warehouse, Llundain, wedi’i sgwennu gan Diana Nneka Atuona. Mae’n ymwneud â menyw wen o Rondda Cynon Taf sy’n rhedeg llety, a milwr GI o America a ddaeth i’r dociau ar lan afon Taf. Ar Ddydd Gŵyl Dewi, mae’r morwyr ar y llwyfan yn bwyta pice ar y maen. Mewn sgwrs gyda fi, cadarnhaodd Diana wrthyf fod morwyr yn dod â siwgr yn ôl i ddociau Caerdydd: doedd dim prinder pice ar y maen yn y dociau adeg yr Ail Ryfel Byd!

A group of people posing for a picture

Description automatically generated

Heb waith gan bobl fel Minwel Tibbott ac Iorwerth Peate, byddai’n anodd i fi wybod am dreftadaeth Gymreig, yn enwedig yng Nghaerdydd lle roedd dim ond 11% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Dyw’r sbeisys mewn pice ar y maen ddim yn tyfu yng Nghymru. Does dim planhigfeydd siwgr yng Nghymru chwaith, ond mae pice ar y maen yn fan cychwyn ardderchog ar gyfer sgyrsiau ar amlddiwylliannedd, yr Ymerodraeth, a Chymru. Beth ddywedodd Dewi Sant? Gwnewch y pethau bychain. Mae’n hen bryd i ni wneud y pethau bychain fel archwilio ac achub ein treftadaeth: o Lanrhymni, Caerdydd i Lanrhymni, Jamaica.

Llun o’r 1960au o Roma Taylor, y ferch hŷn ar y dde, o’r Windrush Elders. Roedd Roma yn aelod o’r Clwb Enfys – grŵp amlddiwylliannol yn nociau Caerdydd i ddathlu celf, celfyddydau, cerddoriaeth ac ati. Mae’r arwydd yn darllen: ‘Mae Clwb Enfys yn croesawu’r Frenhines’, a’r plant wedi’u gwisgo mewn dillad Cymreig traddodiadol.




Mae Yasmin Begum yn arlunydd a sgwennwr o dde Caerdydd. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer cylchgrawn Gal-Dem, Planet a The Welsh Agenda, ac wedi cyflwyno fideos yn y Gymraeg i Hansh am bynciau fel Terfysgoedd 1919, hunaniaeth Asiaidd, a Charnifal Butetown. Dyma’r ail erthygl iddi ysgrifennu yn Gymraeg.