Os ydych chi eisiau hysbysebu am brisiau cystadleuol yng nghylchgrawn Cara neu ar wefan Cara mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd.
Mae’n cael ei ddosbarthu dros Gymru gyfan gyda photensial gwerthiant o 1000+ ac mae gennym dros 400 o danysgrifwyr rheolaidd.
Dyma gyfle i chi gyrraedd cynulleidfa newydd.
Ein nod yw hyrwyddo busnesau a mentrau o bob cwr o Gymru sy’n adlewyrchu diddordebau ein darllenwyr ac ethos y cylchgrawn.
Fformat
Yn y fersiwn print (cylchgrawn Cara):
Anfonwch yr hysbyseb wedi’i dylunio’n barod, yn Gymraeg, ar ffurf pdf o ansawdd uchel (o leia 2MB), llawn lliw, gyda 5mm o waedu bob ochr.
- Tudalen lawn: 260mm x 200mm
- Hanner tudalen: 130mm x 200mm NEU 260mm x 100mm
- Chwarter tudalen: 130mm x 100mm
- Clawr ôl @ £250
- Tudalen ddwbl @ £300
- Tudalen lawn @ £200
- Hanner tudalen @ £100
- Chwarter tudalen @ £50
Yn ddigidol (gwefan Cara):
728 x 90 picsel, baner ar ffurf jpeg ac un linc i wefan allanol
- 1 mis @ £150
- 3 mis @ £400
Cysylltwch â cylchgrawncara@gmail.com i fynegi diddordeb a chael mwy o wybodaeth.
Cadwch lygad ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am brisiau bargen bob hyn a hyn!