Mae Gwenllian Davies yn fam ac yn feddyg. Ar hyn o bryd mae’n Ymgynghorydd Gofal Lliniarol yn ysbytai Abertawe ac roedd hi’n gweithio ar y wardiau COVID dros y pandemig. A hithau’n Sul y Mamau heddiw, a Dydd Cofio Covid a Dydd Gŵyl Dewi newydd fod (a’r düwch yn amharu ar liw dathlu diwrnod ein nawddsant), mae’r digwyddiadau wedi gwneud iddi feddwl am bethau, a daeth teimlad bod rhaid iddi sgwennu’r gerdd hon. Dyw Gwenllian ddim wedi sgwennu cerdd ers gadael ye ysgol, a doedd hi ddim yn siŵr pam gafodd hi’r hyder yma i rannu, ond daeth rhyw ysfa drosti ei bod eisiau rannu ei phrofiadau a’i theimladau:

Y pethau bychain

A ’nes i’r pethau bychain?
A ’nes i ddigon?
A oedd y pethau bychain yn ddigon?

Dwi’n feddyg,
Dwi’n fam,
Dwi’n wraig, dwi’n ferch –
’Nes i ddigon?

Ti’n gwbod bo’ fi’n dy garu?
’Nest ti ddeall bod cariad i ti cyn i ti farw?
Wyt ti’n gwbod bod cariad i ti o hyd, ers i ti fynd?

Ti’n gwbod ’nes i drio?
’Nes i drio.

’Nes i drio…
Bod yn fam,
Yn feddyg,
Yn gyd-ddyn.

A ’nes i’r pethau bychain?
A oedd y pethau bach yn ddigon?
A ’nes i ddigon?