Cylchgrawn print yw Cara, sy’n cael ei gyhoeddi 3 gwaith y flwyddyn, ym mis Mawrth, Gorffennaf a Thachwedd.
Mae’r 72 tudalen liwgar yn llawn erthyglau am faterion cyfoes, teithio dramor, iechyd, trefi Cymru, ffasiwn, steilio cartref, y celfyddydau, menywod mewn busnes, menywod crefftus, menywod ysbrydoledig, bwyd a diod a llawer mwy!
Os hoffech chi anfon syniadau neu sgwennu erthygl y dyddiad cau bob blwyddyn yw:
- Rhifyn Gwanwyn – 1 Chwefror
- Rhifyn Haf – 1 Mehefin
- Rhifyn Gaeaf – 1 Hydref


