Tanysgrifiwch Heddiw
Ein cylchgrawn
Cara
Oleua dy lolfa,
Mae’i ddawn hybu hamddena’n
Ddi-ail – mae’n hynod o dda!
Elin Meek

Pwy ydyn ni
Cafodd cylchgrawn Cara ei sefydlu yn 2019 gan fam a merch, Meinir ac Efa.
Mae gan Meinir brofiad yn y byd cyhoeddi ers 2007 ac mae Efa yn gweithio fel cyfieithydd ers 2014.
Mae swyddfa’r cwmni ym mhentref Llandre, ger Aberystwyth, lle mae Meinir yn byw, a lle magwyd Efa, ond mae Efa bellach yn byw yng Nghaerdydd ar ôl graddio o’r brifysgol yno.
Golygydd copi: Huw Meirion Edwards
Dylunydd: Tanwen Haf (www.whitefiredesigns.co.uk)
Colofnwyr a chyfranwyr rheolaidd:
- Lisa Angharad
- Helen Angharad Humphreys
- Efa Lois
- Bethan Sayed
- Sara Gibson
- Eiry Palfrey

Cylchgrawn print yw Cara, sy’n cael ei gyhoeddi 3 gwaith y flwyddyn, ym mis Mawrth, Gorffennaf a Tachwedd.
Erthyglau
Dyma enghreifftiau o erthyglau rheolaidd cylchgrawn Cara – Cymraes Dramor, Mam a Merch, Ffasiwn, a Bwyd a Diod:




Blog
Darllen
ROWND Y BYD MEWN LLYFRAU
Gyda’r tymor ysgol yn dod i ben, ydych chi wedi penderfynu codi pac a mynd ar wyliau yn fuan? Os ydych chi, fel tîm Cara, yn hoffi darllen ar wyliau – efallai mai dyna’r unig adeg o’r flwyddyn gewch chi gyfle i ymlacio ac i roi’ch trwyn mewn llyfr – rydyn ni...
Stori fer Lowri Haf Cooke – trydydd safle cystadleuaeth stori fer Cara 2020
Dyma bwt o’r stori fer ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth cylchgrawn Cara, mewn cystadleuaeth o 30 o straeon o safon uchel, yn ôl y beirniad, Manon Steffan Ros. Dywed Manon fel hyn am ‘Does unman fel adra’ gan Lowri Haf Cooke: ‘Mae sgwennu ysgafn yn anodd iawn, ond...
Stori fer Erin Hughes – ail safle cystadleuaeth stori fer Cara 2020
Dyma hi, y stori fer a ddaeth yn ail yn ein cystadleuaeth stori fer gyntaf! Llongyfarchiadau mawr, Erin!!21 oed yw Erin, ac mae’n byw ym Moduan. Mae’r stori hefyd ar gael ar AM (amam.cymru). Dyma flas i chi (blas Sherbert Lemons!): New South Wales (Tachwedd...
Clwb Llyfrau Cara

Cwestiynau
Ble alla i brynu?
Mae Cara ar werth yn eich siop lyfrau leol. Mae rhestr yn yr adran Lle i brynu? Rhowch wybod os gewch chi broblem cael gafael ar gopi. Neu gallwch brynu tanysgrifiad gyda cherdyn banc a chael copi drwy’r post.
Sut alla i danysgrifio?
Mae’n bosib tanysgrifio trwy glicio ar y botwm ar dop y dudalen Hafan, a gallwch dalu am 1–4 blynedd. Bydd Cara yn talu am y costau postio (tua £1.80 y copi yn y Deyrnas Unedig). Gallwch dalu gyda cherdyn banc neu anfon siec.
I anfon copïau dramor byddwn yn codi £5 y copi am bostio, felly bydd 1 flwyddyn yn £12 + £15 = £27.
Alla i gyfrannu syniadau?
Mae croeso i unrhyw un anfon syniadau unrhyw bryd! Y ffordd orau i gysylltu â ni yw dros e-bost – cylchgrawncara@gmail.com
Faint mae’n gostio?
Mae pob copi yn £4 ac mae 3 rhifyn y flwyddyn.