I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2020 mae gyda ni gyhoeddiad!

Cawson ni ymateb gwych IAWN i’r gystadleuaeth stori fer, gyda 30 stori yn dod i law. Diolch i chi i gyd, mae’n braf gweld cymaint ohonoch mor awyddus i rannu eich doniau creadigol! Ond dim ond un stori allai ennill! Mae’r beirniad, Manon Steffan Ros, wedi dod i benderfyniad… Dyma ei beirniadaeth:

Pleser llwyr oedd cael pori drwy ymgeisiadau cystadleuaeth ysgrifennu creadigol Cara. Wel, dwi’n deud pori – dyna oedd y bwriad. Ond yn syth bìn, cydiodd y straeon yma yn fy meddwl, a chefais fy hudo. Mae’r safon mor, mor uchel ac fe alla i ddweudyn gwbl onest y byddwn i wedi gallu gwobrwyo pob un o’r ymgeisiadau yma. Diolch o galon i bawb am rannu eu gwaith, a plis plis plis, cariwch ymlaen i sgwennu.
Yn fuddugol, mae ‘Si-Si-Ti-Fi’ gan Fi-go-iawn, am ei fod o’n onest ac yn real ac yn gwneud i mi deimlo y dylai pob menyw gadw copi o’r stori yng nghefn ei dyddiadur, rhag ofn y bydd hi ei angen. Mae’n ddeffroad emosiynol, ffeminyddol i’r darllenydd, a dwi wedi gwirioni.
Yn ail, ‘New South Wales’ gan Mesen. Mae’n sôn am y tanau diweddar yn Awstralia, ac mae’r disgrifiadau cynnil a chynhesrwydd y sgwennu yn troi stori newyddion fawr yn dorcalonnus o bersonol.
Yn drydydd, ‘Adra’ gan Emma Clit. (Dwi’n edmygu ei dewrder wrth ddefnyddio’r ffugenw yma!) Mae sgwennu stori ysgafn yn anodd iawn, ond mae’r awdures yma’n sicr yn taro deuddeg. Dwi wrth fy modd efo’r dafodiaith naturiol a’r awyrgylch cartrefol a gwallgof.
DIOLCH am gael y pleser o ymgolli yn eich sgwennu.

Pleser felly yw cyhoeddi mai Fi-go-iawn yw MARGED ELEN WILIAM o Benrhosgarnedd, Bangor. Dyma beth sydd ganddi i’w ddweud am y stori:

Dwi’n wreiddiol o Fangor ac ar ôl gorffen yn Ysgol Tryfan, symudais i Lundain i ddilyn cwrs Gwleidyddiaeth Ryngwladol yng Ngholeg King’s, Llundain. Ar ôl graddio treuliais gyfnod yn gwirfoddoli gyda’r VSO yn Rajasthan, India cyn cychwyn ar gwrs MPhil mewn Astudiaethau De Asiaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt. Dwi bellach adref yn cwblhau fy nhraethawd hir ac yn canolbwyntio ar fy iechyd meddwl- mae crwydro gyda fy wiped, Cynan, canu gyda Côr Dre, awyr iach Eryri, yn ogystal ag ailafael ar ysgrifennu wedi bod yn rhan allweddol o hynny.

Fel rhywun sydd yn dygymod gyda datgysylltiad (dissociation), fel un o brif symptomau fy mhroblemau iechyd meddwl, mae gen i ddiddordeb yn y cysyniad o drin y corff fel cartref. Mae teimlo’n bell i ffwrdd o’r cartref hwnnw yn brofiad cymhleth ac anodd i’w gyfleu. Dyma felly gyfle arbennig i fynd ati i ymateb i’r cymhlethdod hwnnw pan welais thema’r gystadleuaeth hon. Canlyniad yr ymateb oedd rhywbeth llawer mwy cadarn ac ymrymusol neu empowering nag oeddwn wedi ei fwriadu. Ond dwi’n gobeithio fod y darn yn dangos sut mae bregusrwydd a chryfder yn aml iawn yn cydfyw ochr yn ochr, yn gallu gwrthdaro neu glymu drwy’i gilydd.

Pleser hefyd yw cyhoeddi mai Mesen, yn yr ail safle, yw ERIN HUGHES o Foduan, Pwllheli ac Emma Clit yn y trydydd safle yw LOWRI HAF COOKE o Gaerdydd. Llongyfarchiadau mawr i chi i gyd!

Roedden ni a’r beirniad wedi gwirioni â’r ymateb i’r gystadleuaeth – 30 stori wahanol a chrefftus sy’n dangos bod gyda ni sgwennwyr benywaidd anhygoel mas na!

Gwyliwch y gofod am ragor o gystadlaethau yn y dyfodol!