Mae’r mis diwetha’ ‘ma wedi bod yn wallgo’! Mis sydd ers i ni gyhoeddi rhifyn Gwanwyn 2019, y rhifyn cyntaf, a ry’n ni mor falch o weld bod pobl yn mwynhau Cara hyd yma. Mae eich geiriau caredig wedi bod yn donic i ni, ac maen nhw’n gwneud i ni eisiau gwneud rhifynnau’r dyfodol yn well fyth i chi! Dyma rai o eiriau caredig rhai o’n darllenwyr – diolch i chi i gyd!

 

Catrin Beard, Drefach

Llawn dop o ddarllen difyr #gwych

 

Enid Pritchard, Penrhosgarnedd

Rydw i wrth fy modd! Mae’r cylchgrawn cyntaf wedi cyrraedd drwy’r post ar ôl hir edrych ymlaen ac mae’n wych! Tudalennau chwaethus ac erthyglau difyr, diddorol ac amrywiol.

Diolch o galon.

 

Carys Edwards, Caerfyrddin

Llongyfarchiadau ar eich cylchgrawn. Wir wedi mwynhau ei ddarllen, rhywbeth ar ddant pawb. Edrych ymlaen at y rhifyn nesaf ac wedi tanysgrifio. 👏👏

 

Meinir Jones Parry, Caerfyrddin

Wedi prynu copi o Cara, mae’n edrych yn wych, Llongyfarchiade Meinir ac Efa xx

 

Joanna Jones, Aberteifi

Setlo lawr i ddarllen Cara, llongyfarchiadau mawr i chi, mae’n gylchgrawn arbennig! Amrywiaeth diddorol a chyfoes. Wrth fy modd xx

 

Delyth Ifan, Talybont

Hollol ffabiwlys! Diddorol iawn, iawn. Roedd fy merch wir wedi ei fwynhau hefyd.

 

Lleucu Roberts, Rhostryfan

Mae’n wych – yn wirioneddol ddiddorol, ac yn LLAWN o stwff da! Wedi cael blas mawr arno, ac eisoes wedi tanysgrifio. Ta beth – bendigedig! Edrych mlaen at y nesa’n barod.

 

Llinos Non

Grêt cael erthyglau swmpus amrywiol a difyr i’w darllen! Mor falch fod’na gylchgrawn o’i fath gyda diwyg deniadol ac apelgar – glossy go iawn ac mae fy merch 16 oed yn cytuno! Hi wedi ei ddwyn a throi’n syth at erthygl Ceri Lloyd a’i ddarllen gyda diddordeb mawr cyn i mi ei ddwyn yn ôl!

 

Iestyn Tyne

Llongyfarchiadau mawr ar y rhifyn ‘llawn’ cyntaf godidog o Cara. Fe wnes i fwynhau pori yn fawr!