Dyma ran olaf taith Beca Dalis Williams yn America.

Croeso’n ôl i fy mlog, a’r blog olaf am fy anturiaethau yn America. Wel, dwi’n siŵr eich bod chi eisiau darganfod pwy oedd yn eistedd yn y rhes o fy mlaen ar yr awyren. Ci husky mawr gwyn! Roedd e ar y ffordd i Las Vegas hefyd, ac roedd e’n bihafio’n well nag unrhyw fabi sydd erioed wedi bod yn yr awyr. 

Y noson gyntaf yn Las Vegas oedd y noson orau o gwsg roeddwn i wedi cael ers i mi gyrraedd America. Roedden ni’n aros mewn gwesty anferth oedd ar siâp pyramid! Rhedais i ac Elin i mewn i’r ystafell gan sylweddoli bod ganddon ni wely dwbl yr un a mynd yn wallgo! Roedd yna ddau bwll nofio y tu allan ac roedd hi’n addo storm anferthol. Ond y diwrnod wedyn, roedden ni’n eistedd wrth ymyl y pwll ac mi wnaeth Elin losgi ar ôl eistedd yn yr haul am ddwy awr.  

Roedden ni’n teithio gyda grŵp o bobl ac roedden nhw hefyd wedi bod yn gweithio mewn gwersylloedd haf ar draws y wlad. Roedden ni i gyd felly yn edrych ymlaen at wneud y mwyaf o’r trip a chael hoe. Cawson ni amser arbennig yno a chael mynd ar daith allan i’r anialwch a gweld blociau anferthol o gerrig yng nghanol unman, Seven Magic Mountains. Roedd sioe ffynnon ddŵr Belagio yn brydferth, heb sôn am y tu fewn. Efallai eich bod chi wedi gweld y sffêr enfawr sydd newydd agor yn Las Vegas, gwelson ni hi wythnos cyn iddi agor – roedd hi’n anferth ac roedd llygad fawr yn edrych yn ôl arna i!

Yna draw i weld Hoover Dam – a oedd yn anferthol! Yna gweld Route 66 a’r dref fach o’r enw Williams, oedd wedi ysbrydoli’r ffilm Cars ganPixar. Roedd Williams fel mynd yn ôl i’r gorffennol gyda chowbois ar y strydoedd llawn siopau bach ac mi wnaethon ni hefyd daflu bwyell! Draw wedyn i weld y Grand Canyon a oedd hefyd yn anhygoel ac yn edrych fel darlun gan artist. Arhoson ni tan y machlud ond daeth storm dros y ceunant. Er y storm roedd e dal yn brofiad bythgofiadwy i weld y mellt a tharanau a oedd filltiroedd i ffwrdd. 

Lawr i Los Angeles oedd nesaf, i aros yn Santa Monica, sydd bellach yn un o fy hoff lefydd erioed. Y machlud ar y pier yna oedd yr un gorau welais erioed – mor brydferth. Roedd y pier yn llawn a digon i wneud yno gydag arcêd a reidiau, mi wnaethon ni fynd ar y rollercoaster dros y môr a oedd ychydig yn frawychus! Cawson ni wers pêl foli ar y traeth ac yna redeg i mewn i’r môr. Aethom ni ar gefn beic twc-twc draw i draeth enwog Venice, lle’r oedd y bwrlwm i gyd. Roeddwn i’n gwylio pobl yn gwneud triciau rhyfeddol yn y parc sglefrfyrddio ac yna siopa ar hyd y farchnad.

Bwyton ni fyrgyr In-n-Out am y tro cyntaf, ac roedd e’n flasus iawn – ddim yn siŵr am y sglodion. Gweld y Walk of Fame gydag actorion fel Meryl Streep, Emma Stone a Drew Barrymore. Er i mi fwynhau machlud Santa Monica gymaint, un arall sydd hefyd yn gydradd cyntaf ydy’r un wedi i ni ddringo i fyny Griffith Observatory. Roedd llu o bobl gydag ysbienddrych yn edrych ar y lleuad a’r planedau. Roeddwn i wir yn gwireddu fy mreuddwydion La La Land! 

Y lle nesaf oedd hyfrydwch naturiol Parc Naturiol Yosemite. Roeddwn i’n ysu i weld arth, ond welais i ddim un. Roedden ni’n cael ein tywys o gwmpas gan arbenigwr ac yn dringo mewn i ogofâu. Yna aethom at yr afon ac mi wnes i ac Elin neidio i mewn i’r dŵr a nofio ar hyd yr afon – roedd e mor glir ac mor, mor oer! Dyna un o fy hoff atgofion o’r daith.

Y lle olaf ar y rhestr oedd San Francisco, a oedd yn fwy oeraidd na’r lleoliadau cynt – ac roedden ni ychydig yn ddiolchgar am hynny. Yr agosach roeddech chi’n mynd i’r arfordir y mwyaf gwallgo roedd y gwynt yn mynd. Aethon ni i weld y morfilod ar Bier 39, seiclo dros Bont Golden Gate a draw i Sausalito a gweld y Painted Ladies. Ar ein diwrnod olaf aethon ni i Alcatraz i weld yr hen garchar ar yr ynys ac roedd e wir yn werth ei weld.

Yn ôl â ni i Efrog Newydd wedyn i gael ymlacio, a gorwedd yn Central Park yn gwylio’r byd yn mynd heibio. Yna hedfan yn ôl i Gymru fach i weld pawb eto ac i gael rhannu ein hanes!

Dwi wir yn argymell gweithio mewn camp ac yna mynd i deithio’r wlad, neu hyd yn oed mynd i deithio’r byd! 

Tybed beth fydd fy antur nesaf…?