Rhan 2 UDA: EFROG NEWYDD!
Dyma ail ran taith Beca Dalis Williams yn America.
Yn fy mlog ddiweddaf mi wnes i sôn am fy amser yn gweithio mewn gwersyll yn nhalaith Efrog Newydd. Cefais i amser anhygoel yno, gan greu ffrindiau newydd a chael profiadau unigryw. Mae gen i ffrindiau o Loegr, Yr Almaen, Yr Alban, America ac Awstralia. Un o fy ffrindiau gorau yno oedd yn y bync drws nesaf i fi, oedd Cadence o Loegr. Roedd hi hefyd yn gyfrifol am grŵp o ferched 11 oed ac yn gwneud yr un gweithgareddau â fi – ond dwi methu credu ei bod hi hefyd yn yr un brifysgol â fi. Doedden ni erioed wedi cwrdd o’r blaen ac roedd yn rhaid imi fynd dros y môr i gyfarfod â hi! Rydyn ni’n dal i gyfarfod yng Nghaerdydd, ac mae’n deimlad swreal! Mae’n hyfryd cadw mewn cysylltiad gyda fy ffrindiau oherwydd dim ond nhw sy’n deall y profiadau ac mae’n anodd disgrifio popeth!
Mi wnaethon ni adael golygfeydd prydferth natur ar ôl dau fis prysur, a mynd ar fws i ddinas fawr Efrog Newydd. Roedd gadael y camp yn teimlo mor rhyfedd, ac ar ôl cael un diwrnod i ffoi o’r syrcas bob wythnos, roedd hi wir yn teimlo’n wahanol. Roedd ffarwelio â’r plant ychydig yn emosiynol gan fod yr 8 o ferched roeddwn i’n byw gyda nhw dros y dau fis bellach yn teimlo fel fy mhlant fy hun! Un o fy hoff atgofion oedd pan roeddwn i ar shifft nos ac roedden nhw wedi creu sba yng nghefn y bync. Mi ges i fy ewinedd wedi’u peintio’n binc (a fy mysedd) a gliter, facemask a cherddoriaeth trwy glustffonau. Y peth roeddwn i wir wedi gwerthfawrogi oedd treulio amser yng nghanol natur a pheidio cael braidd dim amser ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cyrhaeddon ni Efrog Newydd ac roedd yr awyrgrafwyr yn fy amgylchynu. Roeddwn i wir yn edrych ymlaen at dreulio rhai dyddiau yma, yn mynd i weld yr atyniadau cyn mynd i ochr arall y wlad. Roeddwn i ar bigau’r drain yn cyrraedd y ddinas oherwydd dyma lle roeddwn i’n cwrdd â fy nghyfnither, sydd hefyd yn ffrind gorau imi. Roedd hi wedi bod yn gweithio mewn camp arall yn nhalaith Efrog Newydd – oedd 5 awr i ffwrdd o fy un i. Mae’n anghredadwy pa mor fawr yw’r dalaith, heb sôn am y wlad, o’i gymharu gyda Chymru fach. Roedd cyfarfod gyda hi yn yr hostel ar ôl imi deithio ar y subway ar ben fy hun yn deimlad mor gartrefol ac roeddwn i mor ddiolchgar o weld gwyneb cyfarwydd ar ôl amser mor hir. Un o’r pethau cyntaf oedd rhaid gwneud oedd cael bagel enwog Efrog Newydd!
Roedden ni yn y ddinas am 4 diwrnod ac roedd hynny’n hen ddigon i ymweld â’r atyniadau roedden ni eisiau eu gweld. Er hyn roedden ni’n dychwelyd i’r ddinas eto yn dilyn ein pythefnos ar yr arfordir gorllewinol, felly doedd dim pwysau i weld popeth o fewn y 4 diwrnod. Mi aethon ni i Central Park a chyfarfod â ffrindiau camp Elin, fy nghyfnither. Yna, aethon ni i weld arddangosfa 9/11, World Trade Center, Statue of Liberty (a oedd yn llai na beth oeddwn i’n ei ddisgwyl), Pont Brooklyn a Phont Manhattan, Times Square, cerdded y Skyline a Little Island. Roedd hi’n ben-blwydd ar un o fy ffrindiau oedd yn gweithio yng ngwersyll y bechgyn ar ochr draw’r llyn, felly mi aethon ni allan i gael bwyd mewn diner Americanaidd yn Soho i ddathlu. Aethon ni i China Town i gyfarfod â rhai o fy ffrindiau camp, a phan es i a fy nghyfnither i Ynys Staten roedd y criw ar yr un cwch hefyd! Roedden ni wir yn gwneud y mwyaf o’r diwrnodau. Un o’r uchafbwyntiau oedd Top of the Rock pan oedd yr haul yn machlud – anhygoel!
Roedden ni wir wedi mwynhau ein hamser yn y ddinas fawr ond wedyn daeth hi’n amser i ni ddal awyren draw i Las Vegas er mwyn dechrau ein trip o bythefnos ar hyd yr arfordir.
Yn y blog nesaf gewch chi glywed pwy oedd yn eistedd o fy mlaen i ar yr awyren a mwy am helyntion y daith fythgofiadwy!