Tanysgrifiwch Heddiw
Ein cylchgrawn
Oleua dy lolfa,
Mae’i ddawn hybu hamddena’n
Ddi-ail – mae’n hynod o dda!
Elin Meek
Pwy ydyn ni
Cafodd cylchgrawn Cara ei sefydlu yn 2019 gan fam a merch, Meinir ac Efa.
Mae gan Meinir brofiad yn y byd cyhoeddi ers 2007 ac mae Efa yn gweithio fel cyfieithydd ers 2014.
Mae swyddfa’r cwmni ym mhentref Llandre, ger Aberystwyth, lle mae Meinir yn byw, a lle magwyd Efa, ond mae Efa bellach yn byw yng Nghaerdydd ar ôl graddio o’r brifysgol yno.
Golygydd copi: Huw Meirion Edwards
Dylunydd: Tanwen Haf (www.whitefiredesigns.co.uk)
Colofnwyr a chyfranwyr rheolaidd:
- Lisa Angharad
- Helen Angharad Humphreys
- Efa Lois
- Bethan Sayed
- Sara Gibson
- Eiry Palfrey
Cylchgrawn print yw Cara, sy’n cael ei gyhoeddi 3 gwaith y flwyddyn, ym mis Mawrth, Gorffennaf a Tachwedd.
Erthyglau
Blog
HOFF DDIOD HAF
Beth yw’ch hoff ddiod ar ddiwrnod poeth? Mae gen i hoff un newydd yr haf yma, sef coffi a thonic, sy’n oer a ffres a blasus. Trïwch hwn! CYNHWYSION Coffi Tonic DULL Rhowch goffi ar waelod gwydryn – naill ai llwyaid o goffi instant (Nescafe sydd yn hwn), neu gallwch...
MENYWOD AR Y MURIAU
Operâu Celf Stryd gan fenywod yn mynd ar daith Mae opera’n symud – o lwyfannau aur i furiau strydoedd Cymru. Gydag Opera Celf Stryd, mae Music Theatre Wales (Bwystfilod Aflan, Y Tŵr) – llais beiddgar ym myd opera gyfoes – yn ailddychmygu beth all opera fod, pwy sy’n...
FRIDA KAHLO, BLUE PETER A FI
Artist ifanc, dalentog o Wrecsam yw Elinor Hughes, a dyma hi’n rhannu ei stori. Elinor Hughes ydw i, dwi’n 19 oed ac yn astudio Celf Gain ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Arlunydd gyfryngau cymysg Gymraeg ydw i, ond ers dod i’r brifysgol, rwy wedi symud i...
Clwb Llyfrau Cara
Cwestiynau
Ble alla i brynu?
Sut alla i danysgrifio?
I anfon copïau dramor byddwn yn codi £5 y copi am bostio, felly bydd 1 flwyddyn yn £15 + £15 = £30.
