Tanysgrifiwch Heddiw

Darllena’r cylchgrawn Cara; ei liwiau

            Oleua dy lolfa,

      Mae’i ddawn hybu hamddena’n

      Ddi-ail – mae’n hynod o dda! 

Elin Meek

Pwy ydyn ni

Cafodd cylchgrawn Cara ei sefydlu yn 2019 gan fam a merch, Meinir ac Efa.

Mae gan Meinir brofiad yn y byd cyhoeddi ers 2007 ac mae Efa yn gweithio fel cyfieithydd ers 2014.

Mae swyddfa’r cwmni ym mhentref Llandre, ger Aberystwyth, lle mae Meinir yn byw, a lle magwyd Efa, ond mae Efa bellach yn byw yng Nghaerdydd ar ôl graddio o’r brifysgol yno.

Golygydd copi: Huw Meirion Edwards

Dylunydd: Tanwen Haf (www.whitefiredesigns.co.uk)

Colofnwyr a chyfranwyr rheolaidd:

  • Lisa Angharad
  • Helen Angharad Humphreys
  • Efa Lois
  • Bethan Sayed
  • Sara Gibson
  • Eiry Palfrey

Cylchgrawn print yw Cara, sy’n cael ei gyhoeddi 3 gwaith y flwyddyn, ym mis Mawrth, Gorffennaf a Tachwedd.

Erthyglau

Dyma enghreifftiau o erthyglau rheolaidd cylchgrawn Cara – Cymraes Dramor, Mam a Merch, Ffasiwn, a Bwyd a Diod:

Blog

Darllen
Y TREND TYWYLL I GAEL TAN:

Y TREND TYWYLL I GAEL TAN:

BYWYD AR Y BYD AR BEDWAR Mae Nest Jenkins yn newyddiadurwr ar Y Byd ar Bedwar ac mae’n sôn am un bennod ddiweddar am yr obsesiwn am liw haul ffug.  Dwi ar come down. Ac nid come down confensiynol, ond cyflwr real iawn sy’n fy mwrw deirgwaith y flwyddyn, sef...

Clwb Llyfrau Cara

“Mae’n wych – yn wirioneddol ddiddorol, ac yn LLAWN o stwff da! Wedi cael blas mawr arno – bendigedig! Edrych mlaen at y nesa’n barod” – Lleucu Roberts
“Rydw i wrth fy modd! Mae’r cylchgrawn wedi cyrraedd drwy’r post ac mae’n wych! Tudalennau chwaethus ac erthyglau difyr, diddorol ac amrywiol. Diolch o galon” – Enid Pritchard
“Grêt cael erthyglau swmpus amrywiol a difyr i’w darllen! Mor falch fod ’na gylchgrawn o’i fath gyda diwyg deniadol ac apelgar – glossy go iawn ac mae fy merch yn cytuno! ” – Llinos Non

Cwestiynau

Ble alla i brynu?
Mae Cara ar werth yn eich siop lyfrau leol. Mae rhestr yn yr adran Lle i brynu? Rhowch wybod os gewch chi broblem cael gafael ar gopi. Neu gallwch brynu tanysgrifiad gyda cherdyn banc a chael copi drwy’r post.
Sut alla i danysgrifio?
Mae’n bosib tanysgrifio trwy glicio ar y botwm ar dop y dudalen Hafan, a gallwch dalu am 1–4 blynedd. Bydd Cara yn talu am y costau postio (tua £2.30 y copi yn y Deyrnas Unedig). Gallwch dalu gyda cherdyn banc neu anfon siec. 

I anfon copïau dramor byddwn yn codi £5 y copi am bostio, felly bydd 1 flwyddyn yn £15 + £15 = £30.

Alla i gyfrannu syniadau?
Mae croeso i unrhyw un anfon syniadau unrhyw bryd! Y ffordd orau i gysylltu â ni yw dros e-bost – cylchgrawncara@gmail.com
Faint mae’n gostio?
Mae pob copi yn £5 ac mae 3 rhifyn y flwyddyn.