BYWYD AR Y BYD AR BEDWAR
Mae Nest Jenkins yn newyddiadurwr ar Y Byd ar Bedwar ac mae’n sôn am un bennod ddiweddar am yr obsesiwn am liw haul ffug.
Dwi ar come down. Ac nid come down confensiynol, ond cyflwr real iawn sy’n fy mwrw deirgwaith y flwyddyn, sef come-down-ôl-cyfres-Y-Byd-ar-Bedwar. Felly, dyma gyfle prin i anadlu ac i arafu wedi’r prysurdeb a fu.
Bu’n gyfres arall o straeon dirdynnol ac emosiynol, gan gynnwys honiadau o gam-drin plant mewn uned addysg ger Caernarfon, brwydr teuluoedd â phlant awtistig a rhwystredigaethau yn y gofal i bobl sy’n byw ag epilepsi. Er hyn, bydd un yn aros gyda fi am gryn amser…
‘Y trend tywyll i gael tan’. Ymchwiliad yn edrych ar ddiwydiant sy’n tyfu ac yn ffynnu.
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn hoffi cael lliw haul da, yn enwedig gyda’r tywydd crasboeth diweddar. Ond mae nifer cynyddol yn dewis mynd yn bellach, mynd yn dywyllach ac eisiau lliw haul sy’n para’n hirach – ac felly’n fodlon troi at gynnyrch sydd heb eu trwyddedu na’u rheoleiddio yn y Deyrnas Unedig.
A dyma fy nghyflwyno i’r tan jabs a’r nasal sprays. Pwy feddylie?! Wrth imi ddechrau tyrchu, canfyddais fy hun ar y cyfryngau cymdeithasol mewn byd o hysbysebion, o gynigion ac addewidion. Byd lle mai delwedd yw’r unig ddelfryd.
Fe siaradais â degau oedd yn eu cymryd, a’u rhesymeg yn weddol debyg:
‘Eisiau edrych yn frown.’
‘Eisiau edrych yn denau.’
‘Eisiau bod yn barod ar gyfer fy ngwyliau,’ ac yn y blaen.
Doedd neb yn poeni am y peryglon a’r pryderon iechyd hirdymor, sy’n cynnwys niwed i’r arennau a chysylltiad posib â chanser y croen. Dwi ddim yn credu ’mod i’n naïf o gwbl, ond mae’n rhaid imi gyfaddef imi gael fy nhristáu wrth siarad â’r holl bobl yma – yn ddynion ac yn fenywod – oedd yn fodlon cymryd y risg er lles cael lliw haul.
Yna, dyma roi cyfle ar brofiad newydd…
Dwi wedi bod yn ffodus iawn i gyflwyno Y Byd ar Bedwar ers dwy flynedd bellach ac wedi cael deifio i grombil sawl ymchwiliad dadleuol, ond dwi erioed wedi bod undercover. Erioed wedi gwisgo camerâu cudd. Erioed wedi esgus bod yn rhywun arall.
Ond, ar ryw ddydd Mawrth braf, dyma roi’r camerâu ymlaen a gyrru o salon i salon yn Ne Cymru yn prynu cynnyrch lliw haul sy’n honni i gynnwys y cemegyn sydd heb ei drwyddedu – Melanotan 2. Roedd yr adrenalin yn ymdebygu i nerfau cystadlu mewn steddfod, wrth wybod mai dim ond amser byr oedd gen i wneud fy marc, bod y balans rhwng cynildeb â gor-wneud yn denau a bod yr uchelgais, a’r cyfiawnhad, yn glir.


Llwyddais i brynu’r cynnyrch yn weddol ddi-ffws, a’r anwybodaeth a’r esgeulustod rhyfeddol gan y gwerthwyr yn codi ofn ar rywun. Cyfaddefodd un nad oedd syniad ganddi beth oedd ynddyn nhw, diystyrodd un arall unrhyw risgiau posib, a datgelodd un ei bod hi’n gwerthu er gwaetha’r ffaith bod y rhain yn ‘anghyfreithlon’.
Dwi’n llwyr ymwybodol bod ’na ddigon o bynciau dwys a dychrynllyd yn y byd ar hyn o bryd, ac efallai nad dyma’r mwyaf brawychus ohonynt o gwbl. Ond, os hoffech ddianc i fyd sy’n estron ond eto’n gyfarwydd, a chael mewnwelediad i drend sy’n rhemp ar stepen drws – wel, ewch i wylio!
Bydd y come-down yn fuan gilio, a’r chwilota’n dechrau am straeon ar gyfer y gyfres nesa. Ac os fydd hynny’n golygu siarad, darganfod a dysgu gan bobl ar draws Cymru, byddaf yn hapus iawn fy myd.
Mae’r rhaglen hon a chyfres gyfan Y Byd ar Bedwar ar gael i’w gwylio nawr ar Youtube S4C, BBC iPlayer ac S4C Clic.
