GWADDOL gan RHIAN CADWALADR
Nofel am y gwead sy’n dal teulu ynghyd, a’r cyfrinachau sy’n eu cadw ar wahân.
Pan oedd Rhian Cadwaladr yn un ar ddeg oed, nododd mewn tasg gwaith cartref ei bwriad i ysgrifennu saith o nofelau. Roedd hi eisoes wedi cyhoeddi pedair: Fi Sy’n Cael y Ci, Môr a Mynydd, Plethu a Dathlu!, ac mae’r bumed newydd gyrraedd y siopau, sef Gwaddol.
Hanes pythefnos dyngedfennol ym mywyd tair cenhedlaeth o’r un teulu ydy Gwaddol, sy’n taflu golwg ar berthynas mam-gu, mam a merch, galar a chariad. Ac mae’r gwaddol sy’n cael ai adael ar ôl yn elfen sy’n codi sawl tro yn ystod y nofel hynod ddarllenadwy hon.
Mae Myfi yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed. Er ei bod wedi byw bywyd llawn a gweithgar mae hi’n dechrau teimlo’i hoed, ac mae’r rhan fwyaf o’i chyfeillion bore oes wedi marw. Mae’n cuddio hen gyfrinach sydd wedi bod yn gysgod drosti ers dros hanner canrif, ac mae’r hanes hwn yn ychwanegu elfen ychwanegol at y ‘gwaddol’ pan mae person yn ein gadael. Sut fydd gweddill y teulu’n ymateb i’r newyddion syfrdanol yma? Mae’r cyfan yn cael ei ddatgelu mewn ffordd sensitif a rhesymegol gan yr awdur, ac nid mewn modd sentimental a siwgrllyd o gwbl.
Delyth yw merch Myfi, sy’n dal i alaru yn dilyn marwolaeth sydyn ei gŵr ddwy flynedd ynghynt ar eu gwyliau yn Lanzarote. Yn ogystal â cheisio talu’r dyledion, y ‘gwaddol’, adawodd Medwyn ar ei ôl, mae hi’n ei chael hi’n anodd ymdopi a gofalu amdani hi ei hun wrth iddi ganolbwyntio ar edrych ar ôl ei mam a’i merch ugain oed, Anna. Mae Anna’n mynnu tynnu’n groes i’w mam, ac mae sawl peth hyll ac anaddas yn cael eu dweud rhwng y ddwy mewn eiliadau tanllyd. Dyw pethau ddim yn hawdd i Delyth pan mae Anna yn chwilio am gysur a noddfa gan Myfi.
Brawd Delyth ydy Robin, ac mae yntau’n ffefryn amlwg gan Myfi. Mae’n ceisio trefnu parti pen-blwydd syrpréis i’w fam, ond mae’n ei chael yn anodd cadw’i wraig, Julie, a’i chwaer yn hapus. Mae pethau’n mynd yn drech na Robin wrth i’r nofel ddatgelu mwy am eu perthynas oriog, ac mae pethau’n mynd i’r pen wrth i gyflwr ei fam waethygu. Dyna tawel a sensitif yw Robin, yn wahanol i’r cymeriadau benywaidd yn y nofel, sy’n gryfach ar yr olwg gyntaf. Mae’r cymeriadau’n rhai credadwy ac yn rhai allwch chi uniaethu â nhw, mae’r darllenydd eisiau gwybod beth fydd eu tynged ac felly mae’n hawdd iawn troi’r tudalennau i weld beth sy’n digwydd nesa.
Mae Gwaddol yn edrych ar y gwead cymhleth sy’n dal teulu ynghyd – y cystadlu a’r cenfigen, y dyletswydd a’r cariad – a sut mae hyn yn gallu newid wrth i’r to hŷn heneiddio a’r ieuenctid droi’n oedolion. A sut mae’r genhedlaeth ganol, y Delyth a’r Robin canol oed, yn ymdopi yn emosiynol â’r newidiadau sy’n digwydd i’r bobl o’u cwmpas. Ac mae’n braf gweld ychydig o ramant yn blodeuo hefyd!
Medd Rhian Cadwaladr, ‘Er bod y nofel yn delio â themâu difrifol mae yma gryn dipyn o hiwmor hefyd. Rydw i wedi trïo plethu’r llon a’r lleddf a chreu darlun o fywyd go iawn sydd, gobeithio, yn gredadwy. Yn sicr mae’r cymeriadau yn fyw yn fy meddwl i. Dwi wedi mwynhau eu creu nhw – nid yn unig y prif gymeriadau ond y cymeriadau ymylol, y cameos bach lliwgar fel Tez Tatŵs a Beti Coesa Cowboi.’
Er mai hon yw ei phumed nofel, dyw disgwyl am ymateb i’r llyfr ddim yn mynd yn haws, yn ôl Rhian. ‘Mae cyflwyno’r cymeriadau i’r darllenwyr yn deimlad od a phryderus – os rywbeth mae’n mynd yn waeth efo pob nofel gan ’mod i ofn eu siomi, ac er bod hyn yn mynd i swnio’n hollol boncyrs, dwi ofn gadael fy nghymeriadau i lawr!’
Cyhoeddodd Rhian ei chyfrol gyntaf i blant, Nain Nain Nain, yn 2019 ac ers hynny mae wedi bod yn cydweithio â’i merch ar gyfres o lyfrau Ynyr yr Ysbryd i blant bach. Cyhoeddodd gyfrol o ryseitiau ac atgofion, Casa Cadwaladr, yn 2021, a Casa Dolig yn 2023. A bydd Casa Haf yn ymddangos yn 2015. Pan nad yw’n ysgrifennu, mi ddewch o hyd iddi yn y gegin neu’n crwydro’r bryniau efo’i chamera.
Am nofel i ymgolli ynddi, a hawdd ei darllen ar eich gwyliau, byddwn i’n bendant yn argymell Gwaddol!
Gwasg Carreg Gwalch
£8.99