Mae Meinir Wyn Edwards, un o olygyddion a sylfaenwyr cylchgrawn Cara, yn rhannu ei phrofiad personol o gael bron brawf.
12.15yp, dydd Sadwrn, 27 Gorffennaf, pen-blwydd Huw (y gŵr), ac rydyn ni ar ddylestwydd gwarchod Nico, ci Dylan (y mab) ac Elgan (y mab-yng-nghyfraith) am y tro cyntaf erioed! Ond i ffwrdd â fi i faes parcio campws Llanbadarn ar gyfer fy apwyntiad bron brawf (neu Tit Test, fel dwedodd rhywun wna i mo’i enwi!).
Dyma’r trydydd mamogram i fi erbyn hyn – ges i’r cyntaf mewn uned sgrinio symudol ym maes parcio Morrisons Aberystwyth chydig fisoedd ar ôl fy mhen-blwydd yn 50 oed. A rhaid diolch o galon i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru am y gwasanaeth effeithiol, rheolaidd ac am ddim sydd ar gael i bob menyw dros ei 50 oed. Mae mor, mor bwysig derbyn y cyfle arbennig yma sydd wir yn gallu achub bywydau. Gall sgrinio ddarganfod unrhyw gancr neu lympiau sy’n rhy fach i’w gweld gyda’r llygad, neu eu teimlo, a hefyd roi’r cyfle i gael triniaeth gynnar a gwell cyfle o oroesi cancr y fron petai unrhyw nam yn cael ei ddarganfod.
Dau gar arall oedd yn y maes parcio, ac roedd hynny’n deimlad braf reit ar y dechrau – fydden i mewn a mas o fewn dim! Ro’n i fwy neu lai’n gwybod beth i’w ddisgwyl, ond eto ro’n i braidd yn nerfus. Ond ces fy nerbyn gyda ‘Shw mae’ a gwên gan y radiolegydd, Rhiannon Davies, ac fe wnes i ymlacio’n syth. Fe wnaeth hi wirio fy manylion dyddiad geni, cyfeiriad, rhif ffôn, ac yna esboniodd beth oedd yn mynd i ddigwydd yn ystod yr apwyntiad, a hynny mewn ffordd glir a syml.
I mewn â fi i’r ciwbicl bach pinc (bach iawn!) i dynnu fy ffrog, yna fy mra, gwisgo fy ffrog yn ôl, a mynd i eistedd yn y ‘dderbynfa’ lle roedd un ddynes arall eisoes yn eistedd. ‘Mae’n gyfyng mewn ’na!” meddai honno, a dyma’r ddwy ohonon ni’n chwerthin ac yn sôn pa mor falch ac mor freintiedig oedden ni o gael bod yna. Y ddwy ohonon ni’n eneidiau cytûn, a rhyw deimlad o chwaeroliaeth yno, rywffordd! Dim temlad o letchwithdod o gwbl, er ein bod yn mynd i noethi’n bronnau i rywun dieithr o fewn munudau! Roedd un ddynes arall (nyrs neu radiolegydd arall falle?) yno hefyd, a daeth hi i ofyn i’r ddwy ohonon ni cyn i ni fynd am y mamogram, a oedd ganddon ni unrhyw gwestiynau neu bryderon. Ro’n i’n teimlo ’mod i mewn dwylo saff.
Cafodd fy enw ei alw i’r stafell lle roedd y peiriant pelydr-x. Dyma Rhiannon eto yn gofyn a oedd gen i unrhyw bryderon am fy mronnau ers y prawf diwethaf, ac fe soniais fod gen i skin tag ar fy mron dde, ond nad oedd hynny’n fy mhoeni o gwbl mewn gwirionedd. Ac er fod hwnnw’n hyll, mae e’n guddiedig iawn rhag y byd! Popeth yn iawn, ac aeth hi ymlaen i esbonio’r broses.
4 llun, 2 o’r ddwy fron.
Tynnu fy ffrog a sefyll o flaen y peiriant, oedd â rhyw fath o blât arno. Dyma addasu hwnnw i fod jyst o dan fy mronnau.
Y fron chwith yn gyntaf i’w halio ar y darn sgwâr fflat yma, a chau’r fron mewn rhyw fath o feis. Ac w, roedd e’n gwasgu!! Roedd gen i bob hawl i stopio’r prawf ar unrhyw adeg oes oedd poen, ond er ei fod e’n boenus, dau flîp o fewn dwy eiliad, ac roedd y feis yn agor a’r fron yn rhydd!
Yr un peth wedyn gyda’r fron dde, a Rhiannon eto’n rhoi cyfarwyddiadau manwl a phwyllog ynglŷn â sut i sefyll, pen-ôl mas (hawdd i rywun sydd â phen-ôl mawr fel fi!) a gwyro’r corff i’r chwith neu i’r dde, dibynnu pa fron oedd yn cael y driniaeth.
Yn ôl wedyn at y fron chwith eto, ei rhoi ar y plât ar ongl chydig yn wahanol i’r tro cyntaf, a chodi ’mraich chwith a’i rhoi i orffwyso (ie, i drio ymlacio), ar ochr y peiriant.
A’r un peth wedyn gyda’r fron dde.
Agor y feis am y tro olaf, ac o, y rhyddhad! Roedd e drosodd am dair blynedd arall. Ond na, un funud fach! Roedd un o’r lluniau ddim yn glir, felly rhaid gwneud llun eto o’r fron chwith. Ond roedd hynny’n ddigon normal, ac roedd y radiolegydd am sicrhau fod pob llun o safon ddigon da i’r canlyniadau fod yn ddiamwys ac yn glir i’r cam nesaf yn y broses brofi.
Gwisgais fy mra a fy ffrog yn ôl, ac esbonio wrth Rhiannon y byddwn i’n hoffi codi mwy o ymwybyddiaeth am gael prawf mamogram a pha mor bwysig ydy hynny er lles iechyd pob menyw. Gofynnais iddi a fyddai ots ganddi petawn i’n ei henwi hi mewn blog i gylchgrawn Cara, ac roedd hi’n hollol hapus i fi wneud hynny. Fe ddwedais wrthi mai ei chanmol fyddwn i, a chefais yr un wên lydan ganddi eto!
Bydd llythyr yn cael ei anfon ata i o fewn 2–3 wythnos, gydag un o dri chanlyniad – popeth yn glir ac aros am yr apwyntiad nesaf ymhen tair blynedd; cael fy ngalw am brawf arall os nad oedd y lluniau x-ray yn ddigon clir, neu fynd i ysbyty i gael prawf pellach gan arbenigwr os oes unrhyw amheuaeth am lwmp neu gancr yn y fron. Mae tua 4% o fenywod yn cael eu galw’n ôl am ryw reswm neu’i gilydd, a byddwch chi’n cael cynnig apwyntiad sgrinio rheolaidd tan fyddwch chi’n 70 oed. Gwych, yndyfe!
Dwi’n gwbod ’mod i’n lwcus nad oes cancr y fron yn rhedeg yn fy nheulu, a dwi’n gwbod bod gwellhad llwyr ar gael os ydy’r cancr yn cael ei ddarganfod yn ddigon buan. Dwi’n gwbod hefyd bod sawl menyw yn gyndyn o fynd am unrhyw fath o brawf meddygol, a dyna pam mae’n bwysig i ni sydd wedi bod am brawf yn lledaenu’r neges am ba mor hawdd a chyflym ac effeithiol mae’r holl broses sgrinio’n gallu bod. Mae nifer wedi rhannu eu taith gyda chancr y fron yn gyhoeddus ac mewn manylder, ac mae gen i’r parch mwyaf atyn nhw, gan gynnwys Mari Grug yn ddiweddar wrth gwrs. A dwi’n nabod sawl un sydd wedi cael amser caled ofnadwy oherwydd triniaeth cancr y fron, a rhai wedi gorfod colli bron, ac wedi mynd trwy bob math o emosiynau yn sgil hynny. Ond mae’n galonogol iawn bod canran uchel o fenywod yn dod trwyddi’n llwyddiannus, a nifer ohonyn nhw oherwydd eu bod wedi cael eu sgrinio’n ddigon cynnar.
Chwarter awr barodd y cyfan. Chwarter awr bob tair blynedd. Chwarter awr a all newid eich bywyd am byth.
Os ydych chi wedi cael eich heffeithio gan gancr y fron, ac eisiau rhannu eich stori, mae croeso i chi gysylltu â chylchgrawn Cara. Rydyn ni’n bwriadu cyhoeddi erthygl lawn ar y pwnc mewn rhifyn print.