Mae Cymdeithas y Cymod, trwy gydweithrediad â chylchgrawn Cara, yn cyhoeddi cyfres o flogiau i hyrwyddo heddwch ac i ddangos sut y gallwn ni fel merched, mamau, neiniau, chwiorydd… gydweithio i wneud gwahaniaeth – ar lefel leol, cenedlaethol a byd-eang.

Wrth ddathlu canrif ers ymgyrch Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923–24, mae mudiadau Heddwch Cymru am alw o’r newydd am heddwch byd-eang.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf aeth grŵp o ferched o Gymru ati i gasglu bron i 400,000 o lofnodion ar ddeiseb oedd yn galw ar ferched Unol Daleithiau America i ymuno â nhw i gydweithio dros heddwch. Ar 19 Chwefror 1924 cyflwynwyd cist dderw oedd yn cynnwys y ddeiseb honno i 600 o fenywod a gynrychiolai dros drigain o gymdeithasau a mudiadau ar draws yr UDA, a’r rheiny yn eu tro yn rhoi llais i tua 16 miliwn o aelodau.

Gyda delweddau gynyddol erchyll o ryfel a gwrthdaro o bob math i’w gweld ar y newyddion, y cyfryngau ac yn wasg yn ddyddiol bellach, sut allwn ni ferched 2024 ddwyn ysbrydoliaeth o’r Ddeiseb Heddwch a’r llinach gref o ferched Cymreig eraill sydd wedi gweithredu dros heddwch?

Er mwyn gallu gwneud gwahaniaeth mae’n bwysig ein bod ni’n addysgu ein hunain am wir ffeithiau beth sy’n digwydd yn y byd, bod yn ymwybodol nad yw pob ffynhonnell newyddion neu wybodaeth o reidrwydd yn gywir ac y gall elfennau o bropaganda (cyhoeddusrwydd neu wybodaeth ddethol er mwyn hyrwyddo achos neu bolisi gwleidyddol, crefyddol, milwrol ayyb) fod yn rhan o’r erthyglau, yr adroddiadau neu’r postiadau cyfryngau cymdeithasol sy’n cael eu rhannu.

Dylem hefyd fod yn ymwybodol o beth sy’n digwydd ac yn datblygu yn lleol. Wyddoch chi fod nifer o’r arfau sy’n cael eu defnyddio mewn rhyfeloedd yn cael eu creu a’u datblygu yma yng Nghymru? Bod cynlluniau ar droed i adeiladu safle yn Sir Benfro a fydd yn gallu canfod lloerennau milwrol yn y gofod a chyfarwyddo awyrennau i ddringo 60,000 troedfedd ac uwch er mwyn eu dinistrio? A bod tirwedd Cymru yn cael ei ddefnyddio gan luoedd arfog tramor er mwyn ymarfer ymosod ar blant a phobl ddiniwed?

Fel merched 1924 gallwn ninnau roi pwysau ar wleidyddion, cynghorau, y wasg ac eraill drwy ymuno ag ymgyrchoedd neu wylnosau mewn person neu ar-lein, arwyddo deisebau neu lythyru ein Haelodau Seneddol/Cynulliad i ofyn am newid. Yn aml gallwch lawrlwytho llythyrau / cynnwys e-bost i’w rhannu. 

Gallwn hefyd hyrwyddo heddwch yn hytrach na thrais drwy fod yn ymwybodol o gwmnïau sy’n ariannu neu’n annog rhyfel ac anghydfod drwy beidio â’u cefnogi – boed hynny’n syml drwy beidio â siopa gyda nhw neu drwy ymuno gyda digwyddiadau boicotio. Mae bod yn ymwybodol o hunanheddwch hefyd yn ein galluogi i ddelio ag, a chefnogi heddwch ymhellach.

 Mae Cymdeithas y Cymod yn fudiad sy’n credu mewn annog a chynorthwyo ein haelodau i fyw bywyd di-drais gweithredol fel modd i drawsnewid y byd – yn bersonol, yn gymdeithasol, yn economaidd a gwleidyddol. Y gobaith yw creu cenedl sydd â heddwch wrth ei chalon, gan rymuso pobl i newid cyfeiriad ein heconomi, ein cyfundrefn addysg a’n diwylliant tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a diogel. Gallwch ymuno â’r Gymdeithas i dderbyn gwybodaeth, addysg a chymorth ar sut i gefnogi ymgyrchoedd a digwyddiadau.

Dilynwch ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol @ycymod a @Heddwcharwaith am y wybodaeth ddiweddaraf ac am syniadau ymarferol o sut i gefnogi heddwch yn lleol, yn genedlaethol ac ar lefel byd-eang.