Dyma gofnod cyntaf Beca Dalis Williams i gylchgrawn Cara am ei thaith i America. Yma, mae’n sôn am ei chyfnod yn un o’r gwersylloedd haf yn gofalu ar ôl plant.

Wrth i’r diwrnodau fynd yn llwydaidd a’r awyr yn tywyllu’n gynnar, mae’n fy atgoffa o ddyddiau da yr haf. Yn ystod haf eleni ces i gyfle arbennig i weithio mewn camp ger llyn Balfour, yng nghanol coedwig, yn bell o bob man, yng ngogledd talaith Efrog Newydd. Wrth i mi adael pawb yng Nghymru fach – gan gofio mai dyma’r hiraf byddwn i wedi bod oddi cartref a cholli’r Eisteddfod Genedlaethol cyntaf erioed – roeddwn i’n hiraethus ond yn hynod o gyffrous. Diolch am bŵer y cyfryngau cymdeithasol, roeddwn i wedi dod o hyd i dair merch oedd yn mynd i dreulio’r haf yn yr un camp â fi! Roedden ni i gyd wedi cwrdd yn y maes awyr a thrwy lwc roeddwn i’n eistedd gyda nhw am y daith hir ar draws Môr Iwerydd.

Wedi i ni gyrraedd ochr arall y byd roedd y daith ar y bws i’r camp ger tref Minerva yn hynod o hir ac roedden ni wir yn andros o bell o bopeth – roedd y siop agosaf 40 munud i ffwrdd! Doedd dim troi ’nôl. Roedd grŵp o bobl ifanc rhyngwladol ar y bws ac ym mlaen y bws roedd pobl ifanc oedd wedi tyfu i fyny yn mynd i’r camp bob blwyddyn. Roedd rhai yn dychwelyd yno am y 13eg tro! Roedd rhaid bod rhywbeth arbennig am y lle felly. 

Cyrhaeddais yno, a chael fy rhoi mewn bync gyda dwy Americanes. Wrth ddod i’w nabod nhw roedd hi mor ddiddorol cymharu’r ffordd roedden ni wedi tyfu i fyny, y brifysgol a slang gwahanol. Roedd y plant yn cyrraedd bedwar diwrnod ar ein holau ni ond roedd eu bagiau yno yn barod – bagiau anferth, fel petai’r plant wedi pacio eu wardrob cyfan! Roedd gen i un cês a dyna ni! 

Cyrhaeddodd y plant ac roedd y camp wir yn teimlo fel bod yn y ffilm Camp Rock! Roeddwn i’n gweithio ar y wal ddringo, y rhaffau uchel, saethyddiaeth a heicio. Yn fy amser sbâr roeddwn i’n mynd am dro ar hyd y llyn, yn gwneud friendship bracelets, darllen, a nofio neu badlfyrddio ar y llyn. 

Roedd yn brofiad anhygoel, ond nid dyna’r cyfan. Ar ôl dau fis o weithio, mwynhau a gwneud ffrindiau newydd o bob rhan o’r byd, es i i deithio arfordir gorllewin yr UDA wedyn.

Dewch ’nôl tro nesaf i glywed mwy am fy anturiaethau y America!

Mae Beca yn dod yn wreiddiol o bentref bach tu allan i Gaerfyrddin ond ar hyn o bryd mae hi’n byw yng Nghaerdydd gyda phump o’i ffrindiau wrth iddyn nhw astudio ar gyfer eu blwyddyn olaf yn y brifysgol. Yn ei hamser rhydd mae’n hoff o chwarae pêl-rwyd a threulio amser gyda’i theulu a’i ffrindiau.