Gyda’r tymor ysgol yn dod i ben, ydych chi wedi penderfynu codi pac a mynd ar wyliau yn fuan?
Os ydych chi, fel tîm Cara, yn hoffi darllen ar wyliau – efallai mai dyna’r unig adeg o’r flwyddyn gewch chi gyfle i ymlacio ac i roi’ch trwyn mewn llyfr – rydyn ni wedi dechrau casglu rhestr o nofelau ar eich cyfer chi.
Meddyliwch am eistedd mewn gwesty, ar lan y môr neu wrth y pwll nofio, a darllen nofel am y lle rydych chi? Mae’n rhoi gwedd wahanol ar y lleoliad, neu’r wlad,ac yn ychwanegu at y profiad o fod dramor. Mae Trip Fiction yn cynnig miloedd o nofelau ffuglen yn Saesneg, felly dyma drio creu rhestr debyg yn y Gymraeg.
Does dim rhaid mynd i deithio wrth gwrs. Ar noson oer, aeafol, dywyll, gall nofel eich tywys i wlad boeth, heulog neu i ddinas fawr brysur ym mhen draw’r byd. Am ryw reswm, mae nifer o awduron Cymru yn hoff iawn o’r Eidal a Sbaen, ac wedi gwneud tipyn o ymchwil ar gyfer eu nofelau!
Ymweld ag ynys Creta, Groeg? Wel, beth am y clasur Awst yn Anogia?
Yr Eidal? Mae digon o ddewis!
Anfonwch neges os dewch chi o hyd i nofel arall addas i’r rhestr!
EWROP
Prydain ac Iwerddon:
Caeredin – Y Diwedd (Jon Gower)
Iwerddon a Gogledd Iwerddon – Da o ddwy ynys (Gwynn ap Gwilym)

Swydd Wicklow – Môr a Mynydd (Rhian Cadwaladr)
Swydd Wicklow – Plethu (Rhian Cadwaladr)
Ffrainc:
Maison de Soleil (Mared Lewis)
Allez les Gallois! (Daniel Davies)
Hafan Deg (Sian Rees)
Paris – Paris (William Owen Roberts)

Paris – Barato (Gwen Pritchard)

Oradour-sur-Glane – Adar Mud (Sian Rees)
Llydaw a’r Almaen – Morffin a Mêl (Siôn Hughes)
Sbaen:
Santiago de Compostela – Gabriela (John Roberts)

Astwrias – Het wellt a welis (Cathi McGill)
Andalucia – Taith drwy Dde Sbaen (Roger Boore)
Dwyrain Sbaen – Glas y Sierra (Roger Boore)
Canol Sbaen – Marchogion Crwydrol (Roger Boore)
Yr Eidal:

Bardi – Rhwng Dau Fyd (Mared Lewis)
Bergamo – Tarw Pres (Alun Cob)

Umbria – Y Gwyliau (Sioned Wiliam)
Sorrento – Pum Diwrnod a Phriodas (Marlyn Samuel)
Verona – Cymer y Seren (Cefin Roberts)
Groeg:
Ynys Creta – Awst yn Anogia (Gareth F Williams)
Cyprus:

Llwch Yn Yr Haul (Marlyn Samuel)
Gweriniaeth Tsiec:
Arch ym Mhrâg (John Rowlands)
Rwsia:
Petrograd – Petrograd (William Owen Roberts)
Croatia:

Dubrovnik – Perl (Bet Jones)
Yr Almaen:
Ingrid (Rhiannon Ifans)
YR AMERICAS
America – Ynys Fadog (Jerry Hunter)
America – Safana (Jerry Hunter)

Washington – Aderyn Prin (Elen Wyn)
Efrog Newydd – Dathlu (Rhian Cadwaladr)
Virginia – Powell (Manon Steffan Ros)
Buenos Aires, Califfornia, Caerdydd – Dala’r Llanw (Jon Gower)
Patagonia – Glas (Hazel Charles Evans)
Patagonia – Y Gaucho o’r Ffos Halen (Carlos Dante Ferrari Doyle)
ERAILL
I Botany Bay (Bethan Gwanas)
Gbara, Nigeria – Dyddiadur Gbara ac Yn ôl i Gbara (Bethan Gwanas)
Taith i Awstralia (Roger Boore)
Mwynhewch fynd rownd y byd mewn llyfrau!