Geirfa rhifyn gwanwyn 2020

Ydych chi’n dysgu Cymraeg, neu ddim wedi arfer darllen Cymraeg? Dyma eirfa ar gyfer rhifyn Cara gwanwyn 2020:   COLOFN LISA ANGHARAD  anweddus = explicit cyfathrebu = to communicate cnawd = flesh cymhlethu = to complicate brawychus = frightening   GOBLYGIADAU CYFREITHIOL CYD-FYW goblygiadau = implications cyd-fyw = to co-habit morgais = mortgage datganiad = […]

Cyhoeddi enillwyr Cystadleuaeth Stori Fer Cara

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2020 mae gyda ni gyhoeddiad! Cawson ni ymateb gwych IAWN i’r gystadleuaeth stori fer, gyda 30 stori yn dod i law. Diolch i chi i gyd, mae’n braf gweld cymaint ohonoch mor awyddus i rannu eich doniau creadigol! Ond dim ond un stori allai ennill! Mae’r beirniad, Manon Steffan […]

Geirfa Rhifyn Gaeaf 2019

Dysgu Cymraeg? Neu rhyw air wedi eich drysu yn y cylchgrawn? Dyma restr o eiriau i’ch helpu!   GOLYGYDDOL podlediad = podcast ymgyrch = campaign grymuso = to empower ysbrydoledig = inspirational   TABŴB (4–5) podlediad = podcast atgenhedlu = to reproduce hunanbleseru = to pleasure oneself agosatrwydd = intimacy gosodiad = statement   MATERION […]

#Caradyhun

Beth yw #Caradyhun?   Mae cylchgrawn Cara (www.cara.cymru) yn dechrau ymgyrch ar-lein ym mis Gorffennaf o’r enw ‘Cara dy hun’ er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch peidio â theimlo cywilydd am ein cyrff. Byddwn yn rhoi ambell awgrym perthnasol a linc i erthyglau/blogiau/flogiau sy’n ymwneud â delwedd y corff, gan ychwanegu post newydd o leia unwaith […]

Geiriau caredig

Mae’r mis diwetha’ ‘ma wedi bod yn wallgo’! Mis sydd ers i ni gyhoeddi rhifyn Gwanwyn 2019, y rhifyn cyntaf, a ry’n ni mor falch o weld bod pobl yn mwynhau Cara hyd yma. Mae eich geiriau caredig wedi bod yn donic i ni, ac maen nhw’n gwneud i ni eisiau gwneud rhifynnau’r dyfodol yn well […]

Cara ar werth!

Dyma lle gallwch chi gael gafael ar Cara: AWEN MEIRION Y Bala AWEN MENAI Porthaethwy AWEN TEIFI Aberteifi BODLON @ YR HEN LYFRGELL CYF Caerdydd BYS A BAWD Llanrwst CABAN Caerdydd CAFFI CLETWR Tre’r-ddôl CANT A MIL Caerdydd COFION CYNNES Ystradgynlais CWPWRDD CORNEL Llangefni CYFOES Rhydaman ELFAIR Rhuthun FFAB Llandysul LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU Aberystwyth LLÊN […]

Cynghorion Ceri ar fwyd a siopa

Rhannodd seren clawr rhifyn Gwanwyn 2019, Ceri Lloyd, rai o’i top tips am sut i fanteisio i’r eithaf ar dymhorau amrywiol Cymru! Mae bwyta’n dymhorol a siopa’n lleol am gynhwysion organig yn bwysig iawn i mi. Mae bwyta yn y ffordd yma yn ein galluogi ni i gysylltu â phatrwm naturiol natur. Yn yr haf, […]