Dyma bwt o’r stori fer ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth cylchgrawn Cara, mewn cystadleuaeth o 30 o straeon o safon uchel, yn ôl y beirniad, Manon Steffan Ros. Dywed Manon fel hyn am ‘Does unman fel adra’ gan Lowri Haf Cooke: ‘Mae sgwennu ysgafn yn anodd iawn, ond mae’r awdures yma’n sicr yn taro deuddeg. Dwi wrth fy modd efo’r dafodiaeth naturiol, ysgafn, a’r awyrgylch cartrefol, gwallgof.’

 

DOES UNMAN FEL ADRA 

LOWRI HAF COOKE

‘Be gawn ni i swper heno?’ holodd Mari, gan estyn am gadach. Wrth blygu i’r llawr i sychu diferion llaeth clywodd ochenaid, a rhwyg yn ei throwsus.

‘Dim syniad,’ poerodd Rhys ei mab, a’i geg yn llawn Coco Pops.

‘Mae’n chwarter i wyth y bore,’ meddai’i gŵr yn ddiamynedd gan fyseddu Twitter ar ei ffôn. 

‘Sut ar wyneb y ddaear ydw i fod i wbod yr eiliad hon be fydda i’n dymuno’i fyta heno?’ holodd Huw, wrth ‘hoffi’ jôc am Jürgen Klopp.

Wrth glirio ar ei chrwcwd, gwelodd Mari siâp Iesu Grist yn y pwll o laeth dan gadair Rhys. Am eiliad dychmygodd ei gŵr yn cael ei groeshoelio gan y Rhufeiniaid, dan gyhuddiad o fod yn goc oen haerllug.

‘Hei, Mam, ma gen ti dwll yn dy drowsus!’ chwarddodd Robin, brawd bach Rhys, wrth ei gwylio’n straffaglu i godi ar ei thraed.

Meatloaf amdani, felly,’ meddai Mari’n benderfynol, gan luchio’r hen glwt tamp i’r sinc.  

Derbyniad llugoer, a dweud y lleiaf, a gyfarchodd ei hawgrym hithau, wrth i’r gegin lenwi’n sydyn â bŵio mawr.

No way dwi’n byta meatloaf!’ gwaeddodd Rhys nerth ei ben. ‘Gawn ni bitsa pepperoni yn lle?’

‘Dwisio sosij, bîns a chips,’ mynnodd Robin wrth ei fam, gan daenu trwch o fenyn a jam ar ei dost.

‘Oeddan ni’n arfar ca’l sbageti bolonês bob nos Fawrth pan oedden ni’n blant,’ cyfrannodd Huw â thinc o hiraeth yn ei lais.

‘Oeddech, siŵr,’ meddai Mari dan ei gwynt. ‘Doedd dy fam ddim yn gweithio yn yr ysgol trwy’r dydd cyn wynebu tomen o smwddio a marcio fin nos. Sbageti bolonês ’ta,’ meddai Mari drachefn, gan estyn am friwgig eidion o’r rhewgell. Trodd y tegell ymlaen cyn estyn am edau a nodwydd o’r bocs botymau yn y cwpwrdd cornel. Wrth i’r dŵr ddechrau ffrwtian tynnodd ei throwsus, gan esgor ar ragor o fŵian o’r bwrdd.

‘Yyyy, nicyrs bagi melyn Mam!’ bloeddiodd Rhys dros y lle, gan annog ei frawd i gydganu’r geiriau gorffwyll.

‘Caewch hi, chi’ch dau,’ rhybuddiodd Huw dros ei goffi, cyn cyffroi wrth ailwylio gôl Romero o’r noson cynt. 

Wedi llwyddo i anelu’r edau trwy’r nodwydd, clywodd Mari glicied y tegell wrth i’r dŵr ferwi. Wrth osod bag te yn ei mỳg ‘Mam Orau’r Byd’, cafodd ei tharo gan ei hoff ffantasi. Ymgollai ynddi’n gyson, er y byddai’r manylion yn amrywio. Wrth arllwys dŵr poeth i’r gwpan, sawrodd arogl y dail Assam, a gadael i’r delweddau cyfarwydd hedfan i fyny ei ffroenau. Caeodd ei llygaid a breuddwydio am yr hyn yr oedd hi’n dyheu amdano fwyaf ers tro byd. Ymlaciodd ei hysgwyddau wrth anadlu’n ddwfn, gan adael i’r straen ddiflannu’n llwyr o’i chorff. Gwelodd feddyg golygus mewn sbectols drud, yn sefyll o’i blaen yn awdurdodol. Gorchuddiwyd ei ysgwyddau cadarn gan grys lliain ysgafn, y llewys wedi’u rowlio at ei benelinau. O dan flewiach ysgafn ei freichiau yr oedd ôl lliw haul ei wyliau, a phefriai ei lygaid gleision trwy’r sbectols tenau. Islaw, gorweddai Mari mewn gŵn nos sidanaidd, a’i choesau llyfn yn ymestyn ar hyd y gwely. Edrychodd y meddyg i fyw ei llygaid, ag un peth yn unig ar ei feddwl.

Mae gen i ofn fod gen i newyddion annisgwyl,’ meddai’r meddyg wrthi’n dyner.

‘Doctor,’ erfyniodd Mari, ‘mae gen i ŵr a dau o blant – plis, peidiwch â chelu’r gwir.’ 

Cyfeiriodd y meddyg at ei nodiadau cyn eistedd wrth erchwyn ei gwely. Tynnodd ei sbectols o’i drwyn ac anadlu’n ddwfn cyn rhannu’r newyddion â hi.

‘Mae’r prawf pelydr-x yn dangos i chi daro’ch pen yn go hegar pan lithroch chi ar lawr y gegin. Concussion ydy’r term swyddogol, ond roedd o’n drawiad anarferol.’

Ochneidiodd Mari mewn braw a gafaelodd y meddyg yn ei llaw, ei lygaid caredig yn llawn cydymdeimlad.

‘Does dim sgileffeithiau andwyol hyd y gwelwn ni o’r profion, ac nid yw’ch cof na’ch archwaeth bwyd wedi eu heffeithio gan y ddamwain o gwbl. Ond mae’n hollol angenrheidiol eich bod chi’n aros yn yr ysbyty. Dwi’n mynnu eich bod chi’n cael bed-rest am bythefnos.’

‘Ond doctor,’ rhesymodd Mari, ‘beth am y gŵr a’r hogia, y golchi, y smwddio a’r coginio? Ac ar ben bob dim dwi’n athrawes ysgol gynradd. Beth am blantos Blwyddyn 4?’ 

Ysgydwodd y meddyg ei ben, a rhannu gorchymyn llym:

‘Does ganddoch chi ddim dewis, rhaid i chi aros yn y gwely. Caiff y gŵr a’r plant ac eraill ymweld, a gewch chi ddarllen, bwyta a gwylio’r teledu. Ond dydach chi ddim ar unrhyw gyfri i godi ar eich traed, nac i feddwl am eiliad am ddyletswyddau bob dydd. Mae gen i ofn y gallai hynny arwain at gymhlethdodau enbyd.’ 

Gyda hynny, gwasgodd y meddyg law Mari’n dynn a rhannu’i ddymuniad taeraf â hi… 

‘Mam, ma’r bws yn gadael mewn pum munud!’ sgrechiodd Rhys yn sydyn yn ei chlust. 

‘Dowch, hogia, well i ni’i throi hi,’ meddai Huw gan roi sws i foch Mari ar frys, cyn gadael pentwr o lestri brecwast ger y sinc. ‘Ma gin i gyfarfod ddiwedd pnawn, fydda i adre tua saith, ond gad y sbag-bol yn y popty, rhag ofn y bydd ’na ddiodydd ar ôl gwaith.’

Safodd Mari yn stond yn ei blows a’i nicyrs melyn yng nghanol corwynt o brysurdeb ben bore. Edrychodd i lawr ar baned lugoer, ddilefrith, pâr o drowsus ac edau a nodwydd.

‘Hwyl, Mam!’ gwaeddodd Robin wrth gau’r drws yn glep, gan achosi i’r llestri budron ddirgrynu.

Caeodd Mari ei llygaid ac anadlu’n ddwfn. Wrth i’r cloc daro wyth, ailadroddodd ei mantra boreol: ‘Does unman fel adre, does unman fel adre…’ – cyn taro’r tegell ymlaen unwaith eto.