Dyma hi, y stori fer a ddaeth yn ail yn ein cystadleuaeth stori fer gyntaf!

Llongyfarchiadau mawr, Erin!!
21 oed yw Erin, ac mae’n byw ym Moduan. Mae’r stori hefyd ar gael ar AM (amam.cymru). Dyma flas i chi (blas Sherbert Lemons!):

New South Wales (Tachwedd 2019)
SIONED ERIN HUGHES

Mi ddown nhw’n ôl ataf weithiau a minnau heb fod yn chwilio amdanyn nhw. Dim isio dod o hyd i ddim, dim isio cofio fel oedd hi bryd hynny pan oedd pob dim yn brifo o berffeithrwydd. Ond tydi atgofion yn malio dim am sob stories felly. Maen nhw’n fain ar drugaredd yn aml.

Ac maen nhw’n dod i ganlyn rhyw arogl cyfarwydd; arogl sydd wedi’i ddowcio mewn cyfnod pell, pell yn ôl. Mi agorodd ’na rywun bacad o Sherbet Lemons yma gynnau ac mi o’n i’n hogyn bach bochgoch eto, a fy awch yn glafoerio’n un afon i lawr fy ngwddw wrth imi ymestyn fy nhair troedfedd am y jar fferins ar dop y cwpwrdd mawr adra. Bachu llond dyrniad a’i heglu hi allan cyn i Mam fy nal i’n hel fy mol mor agos at amsar swpar. Liquorice Allsorts, Mint Imperials, Rhubarb & Custards. Go lew yn unig. Siom yn gwingo y tu mewn imi o sylweddoli ei bod hi’n dlawd arnaf am Sherbet Lemons. Roedd eu powdr a’u siafins nhw’n drwch dros y fferins eraill, ond doedd hynny ddim ’run fath. Y diffyg oedd fy mhenyd am fod yn hogyn drwg a dwyn y fferins yn y lle cyntaf.

Ac mae’r arogl hwnnw wedi sticio wedyn. Uwchlaw bob dim, yr arogl ydi’r gora gen i.

Oedd y gora gen i.

Ac mi oedd i bob stafell ei harogl, a’r arogleuon hynny’n rhoi mwy o gymeriad i’r stafelloedd na wnaeth ’run dodrefnyn erioed. Mi o’n i’n dotio at hynny gan nad oedden nhw’n rhai o ryw diffuser neu’i gilydd – wnaethon ni mo’u prynu nhw’n unlle. Ffeindio’u ffyrdd i mewn i flerwch cartrefol ein byw wnaethon nhw, a phenderfynu glynu wrth bob dim. Gwrthod gadael. Mi o’n i’n edmygu eu gwytnwch nhw.

Fel ddeudis i, Sherbet Lemons oedd arogl y parlwr cefn, ond gwahanol wedyn oedd arogl y parlwr gora. Mi oedd hwnnw’n arogli fel glas, a’i arogl o mor gryf nes imi fedru ei flasu ar flaen fy nhafod. Alla i’m yn fy myw â’i esbonio fo mewn unrhyw ffordd arall; mi oedd o’n arogli fel diwrnod cyntaf hafau fy mhlentyndod, yn drybola o ryddid.

Ond yn goron ar bob arogl, roedd y gegin. Dyma lle’r oedd Mam yn tywallt ei chariad i gyd i mewn i bob pryd, pwdin a chacen a rhoi rhwydd hynt i’w arogleuon bryfocio’i gilydd o’i chwmpas wedyn. Arogl cig a llysieuach yn stiwio’n ara deg ar y pentan, pwdin bara’n trochi mewn llaeth enwyn yn y popty gwaelod, a chacen blât yn brownio yn y popty top. Dyna sut arogl oedd i gariad Mam, a doedd ’na ddim oll yn cymharu ag o.

*

Roedden ni’n medru ei synhwyro fo’n dod, fel y mae gwythïen yn synhwyro min blaen y nodwydd. Ac fel y wythïen, mi oedd yn rhaid inni symud yn sydyn. Mi aeth Mam am y potyn pres, Dad i hel chydig o’n dillad ynghyd, a finnau i arogli. Symud o un stafell i’r llall, a theimlo gwytnwch yr arogleuon yn gwisgo’n denau wrth i’r mwg ddod. Mae arogl mwg yn drech na bob dim.

Pam aros i weld adra’n llosgi, wn i ddim. Mi oedd y tân fel tasa fo’n fyw, yn gloddesta ar gnawd y tŷ ac yn gadael dim mwy na carcas ar ei ôl. Sgram go iawn. Poeri lludw hwnt ac yma wedyn, cyn rhedeg nerth ei begla am y cartref nesa. Ni’n tri yn syllu o bell, ac yn fud. Syllu ar ddiwedd y byd.

Pan fuodd Jona, fy mhysgodyn aur, farw, mi ddeudodd ’na hen lanc oedd yn byw lawr lôn wrtha i mai pris cael yw colli. Do’n i ddim yn dallt ystyr y geiriau bryd hynny, ond dwi’n cofio meddwl mai’r rheiny oedd y geiriau mwya trist ddeudwyd erioed. Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, a dyma sylweddoli mai’r geiriau hynny ydi ’ngwirionedd i heddiw. A chan bod y colli’n brifo cymaint, dwi’n meddwl weithiau y basa hi wedi bod yn gleniach peidio â chael o gwbl.

A cholli bob dim hefyd. Nid jyst y cwpwrdd mawr, y gadair siglo a’r piano, ond yr arwyddion ein bod ni wedi byw yno. Y marciau pensil ar y wal wrth y drws cefn a oedd yn dynodi’r newid yn fy nhaldra am bob blwydd o’m hoedran. Yr hwrlibwrli o sgwigls y tu ôl i’r cwpwrdd mawr ar ôl imi gael gafael ar focs creons yn deirblwydd oed. Y staen pinc wrth droed y soffa wedi imi droi Ribena poeth a mêl pan ges i’r dolur gwddw ofnadwy hwnnw. Colli’r cwbl lot.

‘Gymeri di Sherbet Lemon?’

Ond yr arogleuon yn aros, yn megino fflam yr atgofion i gyd. Yn felltith ac yn fendith, ac yn dannod i mi’n dyner fod drws tuag Aberhenfelen yn gyndyn o gloi.

‘Gwnaf. Diolch.’