Mae Beti George yn wyneb a llais adnabyddus yng Nghymru ers dros 50 mlynedd. Aeth Cara draw i’w holi.

 

Wrth eistedd yn lolfa gyfforddus Beti yn ei chartref ar gyrion Caerdydd, gyda’r te mango a’r lle tân yn ein cynhesu, dechreuodd y sgwrs wrth iddi sôn am ei magwraeth yng Nghoed-y-bryn, ger Llandysul.

 

[Cynhaliwyd y cyfweliad ddechrau Chwefror 2020.]

 

BG: Cardi ydw i, wedi cael fy magu yn y pentref a ddaeth i enwogrwydd oherwydd T Llew Jones wrth gwrs. Es i i ysgol fach leol Coed-y-bryn sy ’di cau erbyn hyn yn anffodus, a wedyn Ysgol Llandysul pan o’dd hi’n ysgol ramadeg a cha’l fy addysg yn Saesneg. Beth ma Dafydd Iwan yn ei ddweud? Ac ambell i lesson yn Welsh whare teg, am mai Cymraes fach o’n i! 

 

Cara: Aethoch chi ymlaen wedyn i Goleg Caerdydd i astudio Cymraeg, Cerddoriaeth ac Eidaleg yn ei blwyddyn gynta, a graddio yn y Gymraeg. Yna treulio blwyddyn yn Aberystwyth yn hyfforddi i fod yn athrawes, a chael profiadau di-ri!

BG: Ges i flwyddyn fythgofiadwy yn Aberystwyth yn gwneud dim llawer o waith! Fues i’n aelod o Gôr Madrigal y coleg a cha’l modd i fyw gyda’r côr mas yn America am ryw chwe wythnos – y tro cynta i gôr o unrhyw goleg yng Nghymru fynd mas yno. Ges i waith ar ôl dod ’nôl yn Ysgol Gynradd Llanbadarn Fawr. Wff, dwi’n cofio’r diwrnod cynta. O’n i gartre am 3 neu 3.30 ac es i i’r gwely yn syth achos o’n i ’di blino gymaint! O, dwi’n edmygu athrawon.

 

Cara: Fe briododd chi wedyn, symud i Aberhonddu, a mynd i ddysgu Cymraeg a Chwaraeon yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn ac Ysgol Ramadeg y Merched. Oedd gwahaniaeth rhwng y ddwy ysgol?

BG: O, o’dd well ’da fi’r bechgyn! O’n i ddim yn lico dysgu’r merched o gwbwl! O’dd e’r un peth yn ysgol Llanbadarn – bechgyn o’dd fy ffefrynne i.

 

Cara: Fe gafodd Iestyn, eich mab, ei eni wedyn, ac roedd rhaid i chi feddwl beth i’w wneud nesaf. Ai dyna pryd dechreuodd eich gyrfa lwyddiannus chi fel newyddiadurwr? 

BG: Ethon ni i fyw i Abertawe lle o’dd fy nghyn-ŵr yn filfeddyg. A wedyn cafodd Iestyn ei eni. Fues i’n helpu fy nghyn-ŵr fel nyrs, ac wedyn pan o’dd Iestyn ’di mynd i’r ysgol feithrin, pan o’dd e biti tair a hanner, o’n i’n meddwl alla i ddim aros gartre trwy’r dydd yn neud dim, felly be alla i neud? A fel o’dd hi’n digwydd o’dd menyw o’r enw Mati Rees – am gymeriad! – yn byw yn Abertawe ar y pryd. O’n i’n ei nabod hi, a wedodd hi, ‘Wel, ma ’na dri dewis ’da chi: gallwch chi fynd i ddysgu i ryw ysgol’ – dwi ddim yn cofio nawr pa ysgol o’dd hi – ‘neu gallwch chi fynd i ddarlithio yn un o’r colege, neu wi’n gwbod bod y BBC yn chwilio am rywun.’ Felly, fe gynigies i a ges i fy nerbyn i fod yn ohebydd yn Abertawe, gohebydd radio, wrth gwrs, yr adeg honno, rhaglen Bore Da a T. Glynne Davies yn ei chyflwyno hi. Athrylith o foi, athrylith o ddarlledwr, a fe ddysges i lot gan T. Glynne. A felly dyna be o’dd dechre’r darlledu. Yna fues i’n darlledu o Gwm Tawe, Cwm Gwendraeth…

Cara: O’ch chi’n mynd mas i chwilio am straeon wedyn?

BG: Oe’n, oe’n, mas i whilo am straeon. A fe ddaethon nhw i sylweddoli fy mod i’n gallu siarad â pobol, neu bo’ fi’n gallu gofyn cwestiyne i bobol ’te, a bod y bobol yn ymateb. ’Na i gyd o’n nhw isie i fi neud wedyn am ryw flwyddyn o’dd mynd mas i neud beth o’n nhw’n galw’n vox pops ar bob math o byncie dwl fel… dwi’n cofio un tro, bod yna ormod o ddŵr yn y cwrw. O’n i’n mynd i ryw dafarn yn Ystalyfera, a cha’l sbort! O’dd pobol Cwm Tawe, o’n nhw mor ffraeth. Ond o’n i’n ca’l problem. O’dd llawer o bobol yn dweud ‘O, dyw fy Nghymrâg i ddim yn ddigon da’, ac wrth gwrs o’dd eu Cymrâg nhw’n ddigon da, yn hen ddigon da, o’dd e’n Gymrâg cyfoethog, pert. Felly, o’n i’n gallu eu perswadio nhw yn y diwedd.

A wedyn dechreuon nhw ofyn i fi neud pethe mwy gwleidyddol a mwy diwydiannol achos o’dd hi’n gyfnod y 70au pan o’dd lot o streiciau – glowyr, gweithwyr dur, o’dd pawb ar streic! O’dd dau ohonon ni’n gweithio yn Abertawe. Ceri Garnon o’dd y llall – o’dd e’n weinidog llawn amser i fod, ond gan mai dyn o’dd e, fe o’dd yn ca’l neud y pethe gwleidyddol a’r pethe diwydiannol. A fi, fel menyw, beth o’n i’n ddeall am bethe fel’na? Ond yn y diwedd, achos bod gymaint o bethe fel’na’n digwydd, o’dd rhaid iddyn nhw ofyn i fi neud rhai pethe ac o’dd rhaid i fi fod yn aelod o Undeb y Newyddiadurwyr. Do’n i ddim yn ca’l mynd i gyfarfodydd y glowyr na’r gweithwyr dur oni bai bo’ fi’n aelod o’r Undeb, ac felly o’n i’n meddwl, fe fwra i ’mhrentisiaeth yn gyntaf, am ryw ddwy, tair blynedd, a wedyn trio. A fe wrthodon nhw i fi ymaelodi y tro cynta i fi gynnig, a’r eildro, ond o’dd ’na ffotograffydd o Gastell-nedd, whare teg iddo fe, a wedodd e bod hyn yn warthus a nath e’n siŵr bo’ fi yn ca’l bod yn aelod. Ges i fynd i’r cyfarfodydd wedyn ac o’n i wrth fy modd.

Yn ystod y streiciau ’ma o’n i’n trio canolbwyntio ar sut o’dd y teuluoedd, y gwragedd a’r plant yn ymdopi yn ystod streic. Ond, yn rhyfedd iawn, o’n i byth yn cael trafferth gyda’r glowyr. Fe wnaethon nhw fy ngwahodd i i lawr i bwll glo – wrth gwrs, fydde hynny byth yn digwydd heddi, bydde fe’n erbyn y rheole, ac o’dd e siŵr o fod yn erbyn y rheole’r adeg honno hefyd! A dyma fi’n mynd i un o’r pyllau glo yng Nghwm Nedd rhyw ddydd Sul. Droies i lan yn fy sgidie a wedon nhw wrtha i, ‘Ble chi’n meddwl chi’n mynd?’ A wedes i, ‘Wel, wi’n mynd lawr i’r pwll, ma ’da chi ffyrdd lawr yn y pyllau, on’d oes e?’ Ho-ho! Ges i bâr o welingtons lawer rhy fowr i fi, a lawr â fi gyda nhw a cha’l agoriad llygad. Do’dd dim ffyrdd fel y cyfryw dan ddaear, wrth gwrs! 

Ond fe fydde ’na ddamweiniau’n digwydd ac o’n i wedyn yn gorfod mynd i weld. O’dd un wedi bod yng Nghwmgwili, anghofia i fyth o hynny – un wedi cael ei ladd a dou arall wedi cael eu hanafu’n eitha drwg. Ac o’n i’n gorfod mynd, wrth gwrs, fel newyddiadurwr, i weld y teuluoedd, i weld a fydden nhw’n fodlon siarad. O’dd ’na un wraig, rhaid bod rhywun wedi cnoco’r drws siŵr o fod, o’dd hi wedi dod mas ta beth, achos o’dd y newyddiadurwyr i gyd o’i chwmpas, ac o’dd hi’n amlwg ddim yn rhy barod i siarad. Ond fe welodd hi fi ac o’dd hi’n amlwg bod hi’n fwy cyfforddus trw’r Gymrâg, ac fe ges i gyfweliad hir ’da hi, whare teg. O’dd ei gŵr hi wedi cael ei anafu’n ddrwg. Pan o’dd e’n gweithio yn y nos, anaml y bydde hi’n gallu cysgu achos fydde hi’n gwrando am glychau ambiwlans, a digwyddodd hynny’r noson honno. Ac o’dd hi’n meddwl, w, ma rhwbeth wedi digwydd lawr ’na. Ac o’n i’n meddwl am fywyde pobol, ac am fywyde teuluoedd y glowyr… Hmmm.

Ac, wrth gwrs, o’dd fy nhad dan ddaear. Gwehydd oedd e, ond o’dd e wedi mynd dan ddaear am rywbeth fel chwe mis, ond fe gath e ddigon a dod ’nôl. Yn wleidyddol, o’dd e wedi cael ei ddylanwadu gan y sosialwyr a dwi’n credu mai fe o’dd yr unig sosialydd yng Nghoed-y-bryn, ac er nad o’dd e’n lico bod yn ddyn cyhoeddus, fe fuasen i’n cael sgyrsie gydag e. Dwi’n cofio etholiad 1945 – beth o’n i, chwech oed? – a mynd at Nan drws nesa, ac o’dd ’da hi weierles ac o’n i’n mynd ati i wrando ar ganlyniadau’r etholiad. A bob tro o’dd Labour yn ennill, o’n i’n gweiddi ‘Hwrê’ neu ‘We-hei’ ac o’dd Nan yn mynd yn fwy ac yn fwy crac. Dwi’n cofio gofyn i ’Nhad pam o’dd Nan yn mynd yn grac pan o’dd Labour yn ennill. ‘Wel, nid pawb sy’n Labour, ti’n gweld,’ medde fe wrtha i!

Wrth gwrs, Rhyddfrydwyr a Thorïaid o’n nhw yng Nghoed-y-bryn yr adeg honno. Do’dd Plaid Cymru ddim fel petai’n bodoli. Felly o’dd gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth erio’d ond o’dd hi’n gyfnod pan nad oedd menywod yn cael gwneud y pethe gwleidyddol. O feddwl ’nôl mae’r peth yn anhygoel, on’d yw e? Ac wrth gwrs ma menwyod yn neud erbyn heddi, a diolch byth eu bod nhw. 

 

Felly dyna Abertawe, ac yna fe ddechreuodd Heddiw ddod ar ’yn ôl i i neud adroddiade ar deledu. O’dd y radio lot haws, wrth gwrs. A’r peth nesa o’n nhw’n gofyn i fi gyflwyno Heddiw. O’n nhw’n ail-lansio’r rhaglen gyda phedwar cyflwynydd. Ac o’dd rhaid cael dyn a menyw ac o’n i gyda Emyr Daniel, y diweddar Emyr Daniel, a o’dd wrth gwrs yn arbenigo ar wleidyddiaeth. O’dd e’n wirioneddol wych fel holwr gwleidyddol. 

Ac wedyn fe ddoth S4C, a ges i gyflwyno Newyddion, Gwyn Llew a fi. O’dd e’n wahanol i raglen Heddiw wrth gwrs, a dwi’m yn siŵr o’dd ffydd gyda nhw ynddo i, hyd yn oed yr adeg honno, a fydden i’n gallu neud pethe ‘caled’ ar Newyddion, ond fe ddois i ben â hi!

 

Cara: Felly sut wnaethoch chi’r naid o’r newyddion i gyflwyno’ch rhaglen gyfweld eich hunan?

BG: O’dd Radio Cymru wedi dechre, a dwi’n meddwl mai yn 1985 dechreuodd Beti a’i Phobol. O’n i’n neud rhaglen ar ddydd Llun o’r enw Cil y Drws, rhyw fath o Start the Week lle o’n i’n ca’l gwesteion mewn i drafod gwahanol byncie am awr. Cafodd Lowri Gwilym a Meirion Edwards wedyn y syniad yma o neud rhyw fath o Desert Island Discs yn Gymrâg. Ac o’n i’n amharod ac yn meddwl, ‘Dyw hwn ddim am weithio!’ Ond fe berswadion nhw fi, ac wrth gwrs mae e’n dal i fynd! Mae e wedi bod yn llwyddiant a dwi’n meddwl ein bod ni fel Cymry yn fusneslyd. A ni’n lico clywed pobol yn siarad am eu hunen. Dwi’n casáu siarad am fy hunan! Mae’n rhoi cyfle i ni fynd dan yr wyneb. A dyna be dwi’n lico neud, y paratoi, yn fanwl, a diolch byth am yr ymchwilwyr sy’n ca’l gafael ar y gwesteion ac yn eu holi nhw.  Ac mae e ’di amrywio o ran ei hyd – o 30 munud i 40 munud ac yna i awr. A dwi’n meddwl bod awr yn iawn, achos ma ’na bedair record. Bydda i’n sgwrsio â nhw cyn y rhaglen jyst iddyn nhw fod yn siŵr i ba gyfeiriad dwi’n mynd, a wedyn yn trio mynd dan yr wyneb.

 

Cara: Mae cannoedd o westeion wedi cael eu holi ar y rhaglen dros y blynyddoedd – oes ambell un wedi aros yn y cof?

BG: O’r cnwd diweddara, yr un sy’n sefyll mas yw’r diweddar Steffan Lewis. Anghofia i byth ei holi fe. O’n i wedi’i wylio fe ar y teledu yn y Senedd ac o’n i’n meddwl ma hwn yn wych, yn mynd i fod yn arweinydd. O’dd aura o’i gwmpas e, ac o’dd e ar dân isie neud i Gymru weithio. Mae’n rhaid chi fod yn berson sbesial iawn i neud hynna a dwi’n credu o’dd e. O’dd e’n gwybod nag oedd ’dag e ddim misoedd i fyw ond o’dd e’n fodlon trafod hynny’n agored. O’n i’n ddiolchgar iddo fe am hynny. Dwi’n credu bod trafod pethe fel’na’n agored yn bwysig achos mae e o help i bobol sy’n gwrando sydd yn yr un sefyllfa, yn hytrach na bo’ chi’n teimlo ar ben eich hunan. Yn enwedig yn ddiweddar gyda iechyd meddwl. Do’dd neb yn arfer ei drafod, ac o’dd unrhyw un â phroblem iechyd meddwl yn cael ei roi yn y gornel a ‘peidiwch ag ymddangos yn gyhoeddus’ math o beth. Erbyn hyn mae’n cael ei drafod yn gwbl gyhoeddus a diolch byth am hynny achos mae’n helpu pawb. Ac o’n i’n wir yn gwerthfawrogi beth o’dd Steffan wedi neud, achos o’dd e’n falch bod e’n cael y cyfle achos  bydde ei fab – Celyn – yn gallu gwrando ar ei dad yn siarad mor agored am bethe, a’r gwleidydd mowr ag o’dd e. Felly Steffan sy’n… er, mae ’na nifer fawr o bobol eraill hefyd yn aros yn y cof.

Alla i ddim dweud bo’ fi wedi casáu holi neb, dwi’m yn credu. Hynny yw, ma ’na ambell un sydd wedi bod yn fwy anodd na’i gilydd. Falle ddim mor barod i agor eu calonnau, ond lleiafrif y’n nhw.

 

Cara: Ond mae rhai’n mynd yn emosiynol…?

BG: O, oes, wel, o’n i’n fy nagrau erbyn y diwedd gyda Steffan wrth gwrs, o’dd y ddou ohonon ni. Dwi wedi bod yn fy nagrau o’r blaen hefyd. Y bobol sy’n dioddef o alcoholiaeth a’u bywydau wedi cael eu torri’n rhacs. Odi, mae’n hala fi’n emosiynol iawn, mae’n rhaid i fi ddweud. 

 

Cara: Ac allen ni ddim cyfweld â chyfwelydd mwyaf adnabyddus Cymru heb ofyn y cwestiwn amlwg, wrth gwrs. Pwy fyddai eich gwestai delfrydol ar Beti a’r Phobol?

BG: Mae e’n gwestiwn sy’n cael ei ofyn yn aml a dwi ddim yn gwbod beth yw’r ateb. I fi, ma’r bobol ’ma dyw dyn ddim yn gwbod rhyw lawer amdanyn nhw yn fwy diddorol na’r sêr – a  dwi’n credu bo’ fi ’di neud y sêr i gyd. Y bobol hynny sydd â rhywbeth gwahanol amdanyn nhw.

 

Cara: Er eich bod chi wedi cael profiadau gwych wrth ddarlledu, beth yw’ch barn am y diffyg cyfartaledd rhwng menywod a dynion yn y maes?

BG: Dwi ’di bod yn darllen llyfr Carrie Gracie, Equal, yn ddiweddar, am gyflogau cyfartal. £8 o’n i’n cael ar raglen Heddiw i ddechrau, ac o’dd Emyr [Daniel, ei chyd-gyflwynydd] yn cael £30, a dwi’n cofio mynd a gofyn, ‘Plis, plis, ga i fwy? Dyw £8 ddim yn ddigon,’ a wedodd y fenyw o’dd yng ngofal y pwrs, ‘Ma ’na giw o ferched mas fan’na fydde’n rhoi’r byd am ga’l eich jobyn chi.’ A ’na fe, ond fe ges i £10 y rhaglen, ar ôl pledio a begian. Fel’na o’dd hi’r adeg honno. A wedyn o’n i’n clywed, ‘Pethe gwleidyddol? Na! Dim menyw yn neud pethe gwleidyddol! Beth o’n nhw’n wbod am wleidyddiaeth?’

 

Cara: Yn ogystal â rhaglenni newyddion a Beti a’i Phobol ar y radio, buoch chi’n teithio’r byd yn cyflwyno rhaglenni cerddoriaeth hefyd.

BG: Yr adeg honno ro’dd ’na gyngerdd ar S4C bob wythnos gyda Cherddorfa’r BBC ac o’dd hi’n fraint i ga’l cyflwyno’r rhaglenni ’ma. Ac o’dd operâu ar S4C hefyd! Dwi’n cofio neud rhaglen arbennig gyda Syr Geraint Evans yn Covent Garden, a George Guest yng Nghaergrawnt – o, y mawrion i gyd! Ac fe gwrddes i â Placido Domingo a gofyn iddo shwt o’dd ei Gymrâg e. A wedodd e nad o’dd ei Gymrâg e’n dda iawn ond o’dd ei Gatalaneg e’n dda! A’r cerddorfeydd! Ges i’r gyfres Beti a’r Gerddorfa a mynd mas i lefydd fel San Francisco. Ro’dd Rebecca Evans yn canu, a Bryn Terfel, a felly o’dd e werth y byd!

 

Cara: Felly cerddoriaeth glasurol yw’r ffefryn gyda chi?

BG: O ie, er, yn ddiweddar, dwi wedi dod i wbod mwy am gerddoriaeth boblogaidd Gymrâg ac ma’r sin mor fywiog. Dwi wirioneddol yn meddwl bod ’na stwff da yn cael ei neud dyddie ’ma. Dwi’n meddwl bod Adwaith yn ffantastic! Grŵp o ferched wrth gwrs! Dwi’n ffan mawr o Lleuwen, a Gwenno, a Georgia Ruth. Maen nhw’n dalent. Ni’n dda am leisie, yn dy’n ni? Ac ma llwyfan da yn cael ei roi iddyn nhw. Dwi’m yn gwrando ar gerddoriaeth Saesneg. Ma fy mab yn gwbod am gerddoriaeth boblogaidd gan ei fod e wedi gweithio ar NME a wedyn GQ. A ma gen i wyres ac ŵyr sy’n dwlu ar gerddoriaeth. Dwi’n whare piano. Ro’dd pawb yn dysgu piano, yn fy nghenhedlaeth i. Fe ’nes i’n itha da, o’n i’n ei astudio fe yn y coleg hefyd. Canu a whare piano, ond do’n i ddim yn lico canu ar ben yn hunan. O’n i’n mynd yn nyrfys ofnadw! O’n i’n lico bod yng nghwmni pobol yn canu. 

Cara: Beth am y teithio? Beth yw’r llefydd gore rydych chi wedi ymweld â nhw, fel rhan o’ch gwaith ac ar wyliau?

BG: O ie, ges i daith i’r India. (Chwerthin) Ar un adeg o’dd S4C yn ca’l nosweithiau thema. Ro’dd y rhaglen ’ma ar frenhiniaeth ac fe gath y cynhyrchydd, Cris Dafis, y syniad gwych yma, beth sy’n digwydd i’r frenhiniaeth ar ôl iddi ddod i ben. Ac wrth gwrs roedd y Raj yn India, do’n nhw ddim yn bodoli bellach – dim pŵer o gwbwl. Ac o’n i’n mynd mas i ofyn beth o’dd yn digwydd i’r palasau ’ma. Rajastan – wel, o’dd hwnna’n agoriad llygad! Ac wrth gwrs, maen nhw i gyd wedi cael eu troi yn westai. ’Na i byth anghofio’r trip i India. 

A wedyn America, achos fe ’nes i raglen ar Caruso, gyda Dennis O’Neill yn neud e’n Saesneg a fi’n neud e’n Gymrâg ac o’dd hwnnw hefyd yn brofiad a hanner! A naethon ni raglenni ar Mozart, Haydn a Handel, a mynd i Fienna ac Ewrop. Dwi ’di bod yn Hong Kong a holi pobol fan’ny. Rhain i gyd gyda ’ngwaith. Ond i’r un man o’n ni’n mynd ar ein gwyliau bob blwyddyn, sef ynys Samos yng Ngwlad Groeg. Buon ni’n mynd yna, siŵr o fod, tynnu am 40 mlynedd, a’r llefydd erbyn hyn i gyd wedi mynd yn boblogaidd, ond pan o’n i yno, i ddechre, wel, o’dd hi’n wag bron.

 

Cara: Pwy all anghofio’r crys-T a gafodd ei gynhyrchu gan PYST yn 2019 wedi’i ysbrydoli gan eiriau ddwedoch chi rywdro: Mae gen i broblem gyda cherddoriaeth ganol y ffordd o bob math. Felly, ydych hi’n ystyried eich hun yn dipyn o eicon ffasiwn?

BG: O, ie, ges i gyfle i fod yn DJ yn Tafwyl. ’Nes i joio hynna! Ond dwi’m yn siŵr a ydw i’n eicon ffasiwn, achos dwi’n meddwl am y camgymeriade dwi ’di neud dros y blynyddoedd. O, dwi’n cofio nosweithiau cyntaf S4C, o’n i’n meddwl prynu rhywbeth sbesial ac ooo, o’dd e’n edrych yn uffernol! Rhyw flowsen â choler uchel – o’dd e’n ofnadw. Ond wi yn lico dillad pobol fel Jean Muir. Oni bai bo’ fi ’di gwario gymaint ar ddillad, fydden i’n gyfoethog iawn erbyn hyn!

Wrth gwrs, ma’n wyres i erbyn hyn, ma hi ’di graddio, cael Dosbarth Cynta mewn tecstilie a ma hi hefyd yn hoff iawn o ffasiwn, felly mae e yn y gwaed, rywffordd. Wi’n credu o’dd Mam hefyd slawer dydd yn dawel bach, er nad o’dd rhyw lawer o arian na dim byd. Ond mae e ’di bod yn ddiléit gen i erioed. Ond yr hyn sy’n bwysig ydy dillad cyfforddus. 

 

Cara: Ond mae gennych chi steil yn sicr. Beth y’ch chi’n hoff o’i wisgo?

BG: Dwi erioed wedi lico sodle uchel – diolch byth bo’ fi’n dal! Dwi’n lico trowsus. Bod yn gyfforddus ydy’r peth pwysig. Dwi’n dueddol o fynd am rywbeth gwahanol. Achos yn aml iawn, y diwrnodau ’ma, dwi’n meddwl bod pobol isie edrych yn debyg i bawb arall. Y Kardashians neu bwy bynnag y’n nhw, ma pobol isie bod yn debyg iddyn nhw. Dwi ddim yn credu bod gen i steil. Dwi’n meddwl, wrth edrych ar y ffasiynau dyddie ’ma, trueni na fydde hyn pan o’n i’n ifanc achos ma ’na gymaint o wahanol ffasiynau. Hynny yw, sdim rhaid dilyn ffasiwn o gwbwl, ma ’na gymaint o amrywiaeth. 

 

Cara: A beth bynnag yw’r wisg, dy’ch chi ddim yn aml heb eich treinyrs lliwgar.

BG: W, a ’na beth arall, erbyn heddi ma treinyrs yn ffasiynol. Wel, o’n i’n arfer gwisgo treinyrs pan o’n nhw ddim yn ffasiynol. A fi’n cofio rhywun yn dweud wrtha i, ‘Oes rhywbeth yn bod ar dy draed di?’ ‘Pam?’ ‘Ti’n gwisgo treinyrs,’ ac o’n i’n meddwl, ‘’Na cheek!’.” 

 

Cara: Oes ’na rywle chi’n lico mynd i siopa’n benodol?

BG: Wel dwi’n neud lot ar-lein dyddie ’ma. Mae’n handi. Yr unig beth yw bod dyn yn gorfod hala nhw’n ôl os nag y’n nhw’n ffito. A dwi’n meddwl, wrth edrych ar y ffasiyne dyddie ’ma, trueni na fydde hyn yn bod tra o’n i’n ifanc ac yn gallu fforddio, pan o’n i’n gweithio llawn amser, achos ma ’na gymaint o wahanol ffasiyne. Hynny yw, sdim rhaid dilyn ffasiwn o gwbwl. Ma gymaint o amrywiaeth heddi. 

 

Cara: Chi’n lico mynd i siope bach unigryw?

BG: O, dwi byth yn mynd i siope tshaen. Dwi’n ffindo bo’ fi rhy fawr i ddillad siope tshaen. Dwi’n rhy dal a rhy fawr! Ma nhw fel ’se nhw ar gyfer pobol fach fel Efa fan hyn.

 

Cara (Efa): Fi’n cael trafferth ffeindio pethe i ffitio fi hefyd. 

BG: O ie, achos bod ti’n fyr! Wrth gwrs erbyn hyn, ma merched yn dal. Ma nhw ’di dal lan ’da fi. Achos pan o’n i’n yr ysgol, wel o’dd na dair ohonon ni tua’r run taldra, ond o’dd pawb arall yn fach! Dwi’n trio meddwl am gynllunwyr… Wel o’dd yr hen rai… Armani, Moschino. Ma ’na un ffrog gan Jean Muir. Mae’n dal i fod gen i yn y wordrob. Fi’n cofio o’n i yng Ngwlad Groeg pan fu farw Richard Burton, ar ein gwyliau yn Samos ac o’n i’n digwydd edrych ar y teledu a’r angladd yn y Swistir. Ac o’dd Sally Burton [gwraig Richard Burton pan fu farw] yn gwisgo yn union yr un ffrog Jean Muir. Rhyw fath o navy blue tywyll a rhyw batrwm bach arni, a ma honno’n dal i fod yn y wordrob. Wi heb wisgo ddi ers sbel, falle ddaw hi mas nawr.

 

Cara: A chithau’n ysbrydoliaeth i gymaint o fenywod, oes ’na rywun sy’n eich ysbrydoli chi?

BG: Dwi yn edmygu menywod sy’n barod i ymladd eu hochr. Am gyfartaledd a sefyll lan dros MeToo ac yn erbyn pobol fel Weinstein. Achos ma nhw’n ddewr. Ond wedi dweud ’na, y bobol dwi’n eu hedmygu fwya ydy’r rheiny sy’n gwneud gwaith gofalu. Menywod y’n nhw rhan fwya, a ma nhw’n gweithio am y nesa peth i ddim. Mae gwaith gofalu yn galetach nag unrhyw waith arall y dyddie yma. Fe ddylen nhw fod yn ca’l eu talu yr un faint â nyrsys o leia. Fe ddylen nhw ga’l eu parchu, a’u hystyried fel proffesiwn. Dy’n nhw ddim ar hyn o bryd, ma pobol yn edrych i lawr arnyn nhw. Ma nhw’n barod i fynd i’r gwaith gan wbod eu bod nhw ar gyflog pitw ac mae e’n beth mor bwysig, mor werthfawr. Ma nhw’n ysbrydoliaeth yn sicr.

 

Cara: Ydy’r byd darlledu wedi newid er gwell neu er gwaeth?

B: O safbwynt menywod mae’r byd darlledu wedi newid er gwell. Pan o’n i wrthi, rhyw dwy neu dair ohonon ni oedd. Felly erbyn hyn, a diolch byth am hynny, maen nhw’n cael gwneud unrhyw beth, ondyfe, yn cael mynd i ryfeloedd, ac yn wleidyddol wel ’na fe, ma’r byd yn agored iddyn nhw. Ond wedyn mae menywod yn gorfod ymladd am gyflogau cyfartal o hyd – sy’n anghredadwy yn y byd sydd ohoni. Dwi jyst ddim yn deall os ydych chi’n neud yr un job. Maen nhw’n torri’r gyfraith os nad ydych chi’n cael eich talu’n gyfartal. Wrth gwrs mae’n debyg bod hi’n anodd profi, falle, bod y swydd yn un gyfartal, dwi’m yn gwybod… Mae’n debyg os yw profiad yn cyfri, falle bod hynny’n effeithio ar ddyle’r cyflog fod yn gyfartal ai peidio. 

A wedyn ydy’r byd darlledu wedi newid? Ydy, wrth gwrs, hynny yw, dy’n ni byth yn cael cyngherddau byw erbyn hyn, yn anaml beth bynnag, dim cyngerdd cerddorfaol, ond wrth gwrs, y dramâu sy’n apelio erbyn hyn. A dwi’n eu mwynhau nhw, mae’n rhaid dweud. Wedyn wrth gwrs, mae’r holl sianeli yma gyda chi nawr, pethe fel Netflix a phopeth, achos dwi’n cofio BBC1, BBC2, S4C, ITV, wedyn daeth Channel 4, ond erbyn hyn mae’n anodd dal lan, on’d yw e? Weithie dwi’n meddwl, wel, ’yn oedran i sy’n dweud hyn o bosib, ond weithiau dwi’n meddwl bod yna ormod o bwyslais yn cael ei roi ar bobol ifanc. Achos dwi’n meddwl, dyw pobol ifanc ddim yn gwylio teledu mwyach, dy’n nhw ddim yn gwrando ar y radio. Mae’r cyfan i gyd ar eu ffonau bach, a dwi’n hunan, os ydw i’n gwrando ar y radio – Radio Cymru a rhaglenni dogfen a phethau fel ’na – fydda i’n gwrando eto. Dwi ddim yn gwrando ar y pryd, felly dwi’n defnyddio’r ffôn bach ’ma yn aml iawn fel radio ac fel teledu. Dwi ddim yn edrych ar bethe pan ma nhw’n digwydd neu pan ma nhw’n fyw. Pobol fy nghenedlaeth i sy yno gartre yn gwylio ac yn gwrando, ac mae’n gymaint o gwmni. A newyddion ydy’r peth mowr, wrth gwrs. Ma llynedd wedi bod yn… wel, mae’r tair blynedd diwethaf wedi bod yn gyffrous iawn.

 

Cara: Yn well nag unrhyw ddrama!

BG: Ydy, yn hollol. Ie, dwi’m yn gwybod. Wrth gwrs, mae dal i fod yn wir sdim llawer o hen fenywod i’w gweld ar deledu, oes e? Ma Mary Berry, whare teg, ond sdim lot ar S4C, nag oes e?

 

Cara: Ydych chi’n gweld isie neud gwaith ar y teledu?

BG: Ym, wel. Weithiau dwi’n meddwl ’sen i wrth fy modd yn neud y rhaglen yna ar deledu. Ond dyna fe. Falle mai penaethiaid S4C sy’n gywir. Dy’n nhw ddim isie gweld menywod hen ar deledu. Hen ddynion? Sdim lot o reiny chwaith, o’s e? Na. Ond mae’n bwnc difyr, achos ma cynulleidfa S4C yn hŷn am wn i. Ond ’na fe.

Cara: Beth y’ch chi’n lico neud gyda’ch orie sbâr?

BG: Wel, sdim lot o orie sbâr ’da fi! Dwi’n mynd i’r theatr, i’r cyngherddau, i’r opera, mynd i’r sinema, achos am ddwy flynedd, mewn gwirionedd, o’n i’n methu mynd mas achos y cyfrifoldeb o ofalu, bydden i ddim yn gallu mynd mas. Felly o’dd hi’n od, ar ôl i David farw, o’n i’n meddwl, reit, beth wi’n mynd i neud nawr? Achos dyna’r pwynt, ar ôl gofalu, wel o’dd hi’n wyth mlynedd i gyd ond yn ystod y tair blynedd diwethaf falle o’dd y gofal mwya, a wedyn dim. Ac o’dd dyn yn teimlo’n wag. Ma ’na duedd i chi golli’r rhythm yna o fynd i lefydd, o fynd i gyngherddau, i gwrdd â ffrindie, i fynd mas am ginio. Ac mae’n anodd pan y’ch chi ar eich pen eich hunan i fynd i’r pethe ’ma. Ond erbyn hyn, dwi wedi ailgydio yn y diddordebau ’ma. Hefyd dwi’n neud lot o waith gyda dementia. Dwi hefyd yn rhan o’r pwyllgor ’ma, y Bartneriaeth sy’n ymwneud â’r Gymrâg yn y maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Ma digon o bethe i neud! A dwi ddim yn lico bod yn segur. Yr hyn ddylen i neud yw mynd mas i gerdded mwy, ond ma isie amser i neud hynny ’fyd. A dwi’n gwylio teledu yn y nos, ddim yn ystod y dydd. A dyna fy mywyd! Dwi ddim yn teimlo’n 81.

 

Cara: Chi ddim yn edrych yn 81 chwaith!

BG: Fi ddim yn teimlo’n hŷn na pan o’n i’n ddeunaw oed, sai’n credu! 

 

Cara: Fe sonioch chi am David fan’na, a dementia, a bod pobol sy’n gofalu yn eich ysbrydoli chi. Fe fuoch chi’n gofalu am sawl blwyddyn am eich cymar [David Parry-Jones, awdur, sylwebydd a chyflwynydd chwaraeon], ac rydych chi wedi bod yn ymgyrchu’n ddiflino ym maes dementia ers iddo farw rai blynyddoedd yn ôl…

BG: Ie, cyn hynny, do’n i erioed wedi meddwl am fy hunan fel ymgyrchydd. Doedd gen i ddim rhyw achos mowr i ymgyrchu drosto, er ’mod i’n credu’n angerddol yn fy iaith – o’n i’n rhy hen mewn gwirionedd. O’dd Cymdeithas yr Iaith wedi dod i fod ar ôl fy mlynyddoedd i yn y coleg. Ond o’n i’n teimlo’r peth yma i’r byw ynglŷn â dementia. Ar y dechrau do’dd yr ymwybyddiaeth ddim yno, o’dd ’na stigma. Ges i fwy nag un achos o weld y stigma yn digwydd gyda David, achos pan ma rhywun gyda dementia, mae’u hymddygiad nhw’n gallu newid. O’dd y tair, pedair mlynedd gynta’n iawn achos er ’mod i’n gweld gwahaniaeth ynddo fe, o’dd e’n anghofio ei eiriau a wedyn anghofio ei frawddegau, ac yn y diwedd do’dd e ddim yn gallu cyfathrebu lot. O’n ni’n dau’n gallu cyfathrebu gan ein bod ni’n nabod ein gilydd yn ddigon da. Ond do’dd ’na neb i droi ato pan o’dd argyfwng yn digwydd. Mi o’dd yna lyfrau’n dechrau dod mas, a rhyw daflenni, ac erbyn hyn, mae ’na lyfrynnau di-ri, a taflenni di-ri, ond do’dd ’na ddim ar y pryd, felly ro’n i’n teimlo’n gryf iawn, achos do’n i ddim yn cael help, a’r gwasanaethau cymdeithasol… do’n nhw ddim yn barod â’u help am wn i. Ma’n rhaid dweud, o’n i’n troi at Twitter. Ma ’na gymuned dda iawn ar Twitter yn ymwneud â dementia ac Alzheimer’s, ac o’n i’n gallu trafod gyda nhw. Os oedd rhywbeth yn fy mhoeni i, neu os oedd yna rywbeth nad o’n i’n ei ddeall, fydden i’n gofyn i’r gymuned yma, a fydden nhw’n dod ’nôl ac yn cynghori fi ac o’dd hwnna’n gymaint o help. 

 

Cara: Ac fe wnaethoch chi raglenni am ddementia hefyd, Un o Bob Tri… a Beti and David: Lost for Words, a enillodd wobr aur yn y New York Festivals International TV & Film Awards.

BG: Fe wnaeth y BBC fan hyn, jyst lawr yr hewl, ein comisiynu i wneud y rhaglen, ac wrth gwrs fe gath hi ymateb anygoel. Fe gath hi’i darlledu dros Brydain gyfan, a do’n i ddim wedi disgwyl y fath ymateb a dweud y gwir. O’dd hi’n amlwg ei bod hi wedi cwrdd â nyrf. Bod yna filoedd ar filoedd mas fan’na o’dd yn mynd trwy union yr un peth ag o’n i, achos o’n i’n neud y rhaglen o safbwynt y gofalwr. O’dd rhaglenni wedi bod am y cyflwr, ac am rai o’dd yn byw gyda’r clefyd, ond do’dd dim un o safbwynt y gofalwr. Mae’r gofalwyr yn mynd drwy uffern yn aml ac felly o’n i isie iddi fod mor gywir, mor real â phosib, a do, fe gafodd hi ymateb arbennig o dda. Erbyn heddi ma pethe wedi gwella o ran cyfnod cynnar y salwch, ond o ran y cyfnod diwethaf, na, does dim cefnogaeth o hyd. A ma dementia yn bla, ry’n ni i gyd yn gwbod am rywun sydd â dementia. Dwi’n gwbod bod yna ymchwil pwysig yn digwydd ac maen nhw’n fwy hyderus erbyn hyn eu bod nhw ar fin dod o hyd i ateb posibl. Mae’n mynd i fod yn faich aruthrol ar gymdeithas os nad ydy’r rhai sy’n dioddef yn cael eu cefnogi fel y dylen nhw, ac wrth gwrs, yn y pen draw, gobeithio y byddan nhw’n dod o hyd i ateb i reoli’r salwch ofnadw ’ma. A dwi’n gwybod bod yna ymchwil yn digwydd a dwi’n nabod un sy’n arwain rhan o’r ymchwil, a mae hi’n fwy hyderus erbyn hyn eu bod nhw ar fin dod o hyd i ateb fydde’n golygu rheoli’r clefyd, fel canser ondyfe, achos mae’r arian sydd wedi cael ei wario ar ganser yn enfawr. Dim ond rhyw… dwi’n credu mai rhyw chwarter yr hyn sy’n cael ei wario ar ymchwil i ganser sy’n cael ei wario ar ddementia. Nid y baswn i’n dymuno bod canser yn cael llai o arian na beth mae’n ei gael, ond dwi’n teimlo y dyle dementia fod yn ei gael hefyd. 

 

Cara: Beth yw’ch gobeithion ar gyfer 2020? 

BG: Wel, Brexit. Dwi’n casáu’r syniad. Sai’n gwbod pam dwi’n poeni rhyw lawer achos bydda i ddim ’ma am ryw lawer eto, ha-ha! Ond o, dwi ddim yn deall y peth, pam bo’ rhaid i ni wahanu oddi wrth Ewrop. Dwi’n deall yn iawn bod ’da’r Undeb Ewropeaidd ei phrobleme a bod angen newid, oes, ond meddwl am Brydain fel ynys fach ar ei phen ei hunan… Fysen i fy hunan yn lico gweld Cymru yn mentro i fod yn annibynnol. I fi, dyna’r ateb. A dwi’n siŵr y gallen ni neud yn iawn. Os bydd yr Alban yn mynd, ac Iwerddon yn uno – a dwi’n gweld Iwerddon yn uno yn fuan – wedyn dyna ni ar ben ein hunain gyda Lloegr. A dyw’r peth ddim yn mynd i weithio… Beth ydw i’n ofan yw’r hyn sy’n digwydd yn San Steffan. Achos fydda i’n gwylio sianel Parliament weithie yn y prynhawn. Does ’na ddim gwrthwynebiad i unrhyw benderfyniad sy’n cael ei wneud. Ond ma gan y llywodraeth fwyafrif mor glir, ma dyn yn cwestiynu weithie a ydy e’n ddemocratiaeth. Gobeithio y bydd ’na ddêl synhwyrol erbyn diwedd 2020. Mae e’n beth boncyrs bo’ ni’n ymwahanu, dwi’n credu.