Ydych chi’n dysgu Cymraeg, neu ddim wedi arfer darllen Cymraeg? Dyma eirfa ar gyfer rhifyn Cara gwanwyn 2020:

 

COLOFN LISA ANGHARAD 

anweddus = explicit

cyfathrebu = to communicate

cnawd = flesh

cymhlethu = to complicate

brawychus = frightening

 

GOBLYGIADAU CYFREITHIOL CYD-FYW

goblygiadau = implications

cyd-fyw = to co-habit

morgais = mortgage

datganiad = statement

anghydfod = dispute

 

FFASIWN CYFLYM

amodau = conditions

cadwyni cyflenwi = supply chains

dirywio = deteriorate

safleoedd tirlenwi = landfill sites

y stryd fawr = the high street

y diwydiant ffasiwn = the fashion industry

amrywiaeth = variety/diversity

cemegau gwenwynig = toxic chemicals

amgylcheddol = environmental

effaith andwyol = harmful effect

llygrydd = pollutant

goramser = overtime

cynaliadwyedd = sustainability

 

AELIAU HEB EU HAIL

purdeb = purity

amrannau = eyelashes

beiddgar = daring

nodwedd ddiffiniol = defining feature

rasel = razor

therapydd harddwch = beauty therapist

ar letraws = diagonally

hynaf = oldest

 

ATEGOLION ATYNIADOL

sodlau = heels

hyblyg = flexible

amryliw = multicoloured

 

EGLANTYNE, YR ELUSEN A FI

anesboniadwy = unexplained

arloeswraig = innovator (benywaidd)

newynu = to starve

maethlon = nutritious

cadeirlan = cathedral

anghyfartaledd = inequality

difreintiedig = disadvantaged

cennad = mission

 

Y WAL GOCH A’R WEFR

cydorfoleddu = celebrate together

uchelseinydd = speakers

tridiau = three days

crasboeth = blazing hot

eiddigedd = jealousy

digyfeiliant = acapella

 

GWELD SȆR

arallfydol = otherworldly

seryddol = astrological

gofodwyr = astronauts

ffenomen = phenomenon

wal nodwedd = feature wall

 

SI-SI-TI-FI

griddfanodd = he groaned

cwrlid = cloak

cyfoglyd = nauseating

pendwmpian = snooze, nod off

encil = refuge, haven

coflaid = embrace

brychni = freckles

cynnil = subtle

 

TŶ CREGYN A CHOLOMENDY CILWENDEG

colomendy = pigeon-house

nythu = nesting

adar ysglyfaethus = birds of prey

 

GWEHYDDWRAIG DYFFRYN OGWEN

gwehyddwraig = weaver

bugeiliaid = shepherd

unffurf = uniform

carthen = throw, blanket

 

CARA YN HOLI… BETI GEORGE

magwraeth = up-bringing

edmygu = to admire

nyrs filfeddygol = veterinary nurse

ffraeth = witty

cyflogau cyfartal = equal pay

brenhiniaeth = monarchy

cymar = partner

sylwebydd = commentator

ymgyrchydd = campaigner

darlledu = broadcast

 

DEWCH AM DRO I… PORTHAETHWY

hudolus = magical

culaf = narrowest

derwyddon = druids

culfor = strait

asennau = ribs

ffoaduriaid = refugees

ymddeoliad = retirement

newydd-ddyfodiad = new arrival

 

HYSTERECTOMI YN 21 OED?

groth = womb

coluddyn = colon

y bledren = the bladder

ffrwythlondeb = fertility

diffyg ymwybyddiaeth = lack of awareness

chwerwfelys = bittersweet

ymprydio = fasting

ynysig = isolated

mariwana meddygol = medical marijuana

anymosodol = unthreatening

 

IWERDDON AR DDWY OLWYN

cenhedlaeth = generation

adfeilion = ruins

eog wedi’i fygu = smoked salmon

troellog = winding

anghwrtais = impolite

paradwys = paradise

ffenigl = fennel

wystrys = oysters

crafangau = claws

lleiandy = convent

Ynys Emrallt = Emerald Isle

 

MERCHED MEWN HANES

anturiaethwraig = adventurer

braslunio = sketch

arloeswraig = innovator

anghysbell = remote, isolated

allbwn creadigol = creative output

haniaethol = abstract