Beth yw #Caradyhun?

 

Mae cylchgrawn Cara (www.cara.cymru) yn dechrau ymgyrch ar-lein ym mis Gorffennaf o’r enw ‘Cara dy hun’ er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch peidio â theimlo cywilydd am ein cyrff. Byddwn yn rhoi ambell awgrym perthnasol a linc i erthyglau/blogiau/flogiau sy’n ymwneud â delwedd y corff, gan ychwanegu post newydd o leia unwaith y dydd am y pythefnos nesaf, gan arwain at gyhoeddi rhifyn haf Cara.

Y bwriad yw cael merched a bechgyn o bob lliw a llun i gefnogi’r ymgyrch drwy roi hunlun ar ein tudalennau Facebook, Twitter ac Instagram (@cylchgrawnCara) gyda’r hashnod #Caradyhun ac ysgrifennu brawddeg neu ddwy am yr hyn maen nhw’n teimlo sy’n dda am eu cyrff a pham y dylen ni ymfalchïo yn yr hyn sydd gyda ni.

Mae ‘delwedd y corff’ yn derm sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio sut rydyn ni’n meddwl ac yn teimlo am ein cyrff, a’r ffordd rydyn ni’n teimlo amdanon ni’n hunain yn gyffredinol, yn gorfforol ac yn feddyliol. Eleni mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl wedi canolbwyntio ar ddelwedd y corff yn eu hymgyrch flynyddol Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac ym mis Mai fe wnaethon nhw gyhoeddi ymchwil newydd a dechrau ymgyrch dros newid. Ewch i mentalhealth.org.uk am fwy o wybodaeth.

Mae ystadegau brawychus yr arolwg a gynhaliwyd gan y Sefydliad Iechyd Meddwl a YouGov yn tanlinellu’r ffaith fod pobol ifanc yn enwedig yn cael eu heffeithio gan hunan-werth isel ac yn teimlo’n ddihyder am eu cyrff, sy’n gallu arwain at broblemau iechyd meddwl dwys, fel Anhwylder Dysmorffia’r Corff (BDD – Body Dysmorphic Disorder). 

Yn ôl yr arolwg mae:

    • 20% o oedolion a 31% o bobol ifanc yn teimlo cywilydd am eu cyrff.
    • 34% o oedolion a 37% o bobol ifanc yn teimlo’n isel iawn.
    • 13% wedi cael teimladau hunanladdol oherwydd delwedd y corff.
    • 21% yn poeni am eu cyrff oherwydd delweddau mewn hysbysebion.
    • 22% o oedolion a 40% o bobol ifanc yn poeni am ddelwedd y corff oherwydd delweddau ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Mae delwedd y corff yn arbennig o berthnasol yn ystod misoedd yr haf, i ddynion ac i ferched – nid rhywbeth i ferched yn unig yw hyn. Mae rhaglenni fel Love Island yn rhoi’r argraff bod rhaid cael corff o fath penodol i fod yn llwyddiannus a chael cariad. Ond pam mae’r cynhyrchwyr yn dewis pobol o’r fath, ac yn rhoi pwysau diangen ar y cyhoedd i gredu mai dyma’r cyrff ‘delfrydol’? Nid dyma sut mae pobol mewn cymdeithas ar y cyfan, felly pam nad yw’r rhaglen yn adlewyrchu hynny?

Dyma farn Liam Preston, pennaeth yr ymgyrch Be Real, am y rhaglen:

“In the run-up to this year’s Love Island, we genuinely thought that the producers might have heeded the outcry from last series’ ‘perfect’ line-up. Unfortunately, this does not appear to be the case. While the inclusion of one contestant who ‘could’ be considered plus-sized is better than in previous years, it is nowhere near close to being good enough. From what we can see thus far, Love Island has tried to tickbox its way through showcasing different body sizes but has once again fallen short of the standards the public deserve.”

Mae Cara yn awyddus i gael pobol i siarad am eu cyrff ac mae tri pheth sydd angen eu pwysleisio – addysgu pobol ifanc, gofalu am iechyd corfforol a meddyliol, a phwysigrwydd dangos amrywiaeth o ferched go iawn mewn delweddau cyhoeddus. Mae’r seléb, Stacey Solomon, yn chwa o awyr iach ar Instagram gan ei bod yn dangos lluniau real ohoni hi ei hun, heb eu ffiltro, yn fuan iawn ar ôl iddi roi genedigaeth yn ddiweddar. Mae Arddun Rhiannon yn sôn am hyn yn ei blog ‘Cofia dy werth’ ar ei gwefan arddunrhiannon.com.

Merch ifanc ddewr arall sydd wedi trafod ei phroblemau ynglŷn â hunan-werth yw Ffion Hâf Davies, 16 oed, o Bontarddulais. Mae Ffion yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru ac mae newydd gyrraedd rownd derfynol y Wicked Young Writers Award am erthygl sgwennodd hi am beryglon codi cywilydd ar bobol oherwydd eu pwysau, ‘Nid yw tew yn air drwg’ (bbc.co.uk/cymrufyw). 

Mae erthygl Helen Angharad Humphreys yn rhifyn haf Cara yn dangos bod modelau o bob lliw a llun yn cael eu defnyddio fwyfwy i werthu dillad, ac mae mwy o gylchgronau a chynllunwyr ffasiwn yn sylweddoli mor bwysig yw cael merched o bob siâp i wisgo’u dillad. Diolch byth am hynny!

Ac mae colofn Lisa Angharad yn sôn am goncro’r cywilydd mae merched yn ei deimlo am eu cyrff, yn enwedig pan mae’r mislif arnon ni. Ond mae hynny’n rhywbeth cwbwl naturiol, felly pam yn y byd rydyn ni’n teimlo cymaint o gywilydd amdano? Ac mae’n digwydd i hanner y boblogaeth mewn oed! 

Dyma ambell awgrym ynglŷn â sut i deimlo’n fwy positif a hyderus am eich corff:

  1. Siaradwch â ffrind, aelod o’r teulu neu rywun proffesiynol ym maes iechyd os ydych chi’n teimlo’n isel iawn, neu os ydych chi’n cael eich bwlio am sut rydych chi’n edrych. Peidiwch â theimlo pwysau i wneud penderfyniad drastig fel cymryd tabledi neu gyffuriau, neu gael triniaeth gosmetig ar eich corff.
  2. Meddyliwch am yr apiau sydd gyda chi ar eich ffôn, a gwaredwch y rhai sy’n gwneud i chi deimlo’n isel neu dan straen.
  3. Edrychwch ar y bobol rydych chi’n eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Oes angen i chi ddilyn y rhai sy’n gwneud i chi deimlo’n wael amdanoch chi’ch hunan? Byddwch yn ymwybodol o’r hyn rydych chi’n ei roi mewn postiadau hefyd, a sut y gall eich sylwadau effeithio ar bobol eraill.
  4. Os oes llun neu hysbyseb yn cyflwyno delwedd afrealistig ar y cyfryngau, ac yn eu hyrwyddo drwy ensynio mai dyna sut y dylech chi edrych, gallwch wneud cwyn swyddogol i’r Awdurdod Safonau Hysbysebu.
  5. Byddwch yn fwy positif am ddelwedd y corff yn y cartref, trwy fwyta’n iach, gwneud ymarfer corff a chanmol eraill am lwyddiannau nad ydynt yn ymwneud ag agweddau corfforol. Mae ysgolion yn dechrau gweld bod merched yn teimlo’n fwy positif am eu hunanddelwedd os ydyn nhw’n cael y cyfle i drafod delwedd y corff yn y dosbarth.
  6. Byddwch yn ymwybodol o’r iaith rydych chi’n ei defnyddio wrth drafod sut mae pobol yn edrych. Peidiwch â dweud pethau negyddol amdanoch chi’ch hunain a rhoi eich hunan lawr o hyd:

“Dwi’n teimlo’n dew heddiw.”

“Ti’n edrych yn grêt! Ti ’di colli pwysau?”

“Jiw, mae’n edrych yn hen.”

Gall hyn gael effaith negyddol hir dymor ar y ffordd rydych chi, a’r rhai o’ch cwmpas chi, yn meddwl am ddelwedd y corff.

  1. Ceisiwch ddod o hyd i’r ffordd orau i chi gadw’n ffit. Gall rhywfaint o ymarfer corff bob wythnos fod yn llesol i’r corff a’r meddwl, a lleihau stres. Sdim rhaid mynd dros ben llestri, ond yr ymarfer corff gorau yw’r un rydych chi’n ei fwynhau orau. 
  2. Trafodwch ddelweddau afrealistig ar y cyfryngau cymdeithasol, a dod i ddeall nad yw’r llun gwreiddiol yn debyg bob tro i’r fersiwn sy’n cael ei weld yn gyhoeddus.

Dyma restr o wefannau defnyddiol, sy’n cynnwys cynghorion a straeon pobol go iawn.

meddwl.org – gwefan a sefydlwyd yn 2016 i roi cymorth a gwybodaeth i’r rhai sy’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl, a hynny yn Gymraeg.

Dove – awgrymiadau da iawn am sut i annog delwedd corff positif. Mae’r wefan yn darparu adnoddau am ddim i rieni, athrawon a phobol ifanc.

Ymgyrch Be Real – gwefan ddefnyddiol sy’n gweithio gyda chwmnïau prydferthwch a’r llywodraeth er mwyn hyrwyddo hyder yn ein cyrff. Mae’n cynnwys adnoddau a gweithgareddau, ac adran ar gyfer rhieni.

Llinell Gymorth PwyntTeulu.cymru – mae cynghorwyr ar gael i siarad gyda chi, a’ch trosglwyddo i’r gwasanaethau a all helpu, rhwng 9 a 5 dydd Llun i ddydd Gwener.