Rhannodd seren clawr rhifyn Gwanwyn 2019, Ceri Lloyd, rai o’i top tips am sut i fanteisio i’r eithaf ar dymhorau amrywiol Cymru!

Mae bwyta’n dymhorol a siopa’n lleol am gynhwysion organig yn bwysig iawn i mi. Mae bwyta yn y ffordd yma yn ein galluogi ni i gysylltu â phatrwm naturiol natur. Yn yr haf, cynhwysion salad sy’n tyfu ran amlaf, sy’n berffaith er mwyn helpu i gadw ein cyrff yn oerach pan mae’r tywydd yn boeth.

Yn y gaeaf, llysiau sy’n amsugno llawer o ddŵr o’r tir sy’n tyfu, fel moron, cennin a bresych, gan helpu’r tir i ymdopi gyda chyfnodau gwlyb y gaeaf. Maent hefyd yn gynhwysion perffaith ar gyfer prydau blasus i’n cadw’n gynnes drwy’r tywydd oer.

Yn amlwg, mae’n anodd dod o hyd i bopeth sydd ei angen yn lleol gan nad yw llysiau a ffrwythau fel bananas ac afocados yn tyfu yn y wlad hon. Mae cyflwyno’r rheol 80:20 yn wych i’ch rhoi ar ben ffordd, sef prynu 80% o’ch bwyd yn dymhorol, yn lleol a heb ei brosesu, a’r 20% arall yn fwydydd mwy egsotig, sy’n tyfu dramor yn bennaf.

Mae’r gwanwyn yn gyfnod pan mae popeth yn aildyfu ac yn ailflodeuo. Mae’n amser perffaith iflaenoriaethu ac ailddyfeisio’r ffordd rydyn ni’n meddwl, a’r cwrs mae ein bywyd yn ei ddilyn. Mae hefyd yn amser perffaith i ddarganfod y pethau yr hoffen ni adael iddyn nhw fynd a dechrau meddwl am y pethau yr hoffen ni eu cyflwyno i’n bywydau.

Un o fy hoff bethau i’w wneud yr adeg yma o’r flwyddyn yw clirio a glanhau aer y tŷ. Drwy ddilyn y ddefod isod byddwch yn clirio unrhyw egni negyddol sydd yn eich gofod ac yn eich enaid. Mae’n gallu helpu i dawelu’r system nerfol, i leihau poen meddwl ac i wneud i chi deimlo’n fwy ‘presennol’. Cyn i chi ddechrau, mae’n bwysig bod y gofod rydych chi’n ei lanhau wedi’i awyru er mwyn i’r mwg sydd yn cario’r egni negyddol gael rhywle i ddianc iddo. Gallwch ddechrau drwy glirio’r aer mewn un ystafell neu drwy’r tŷ cyfan. Gyda’r saets (sage) sych gwyn, meddyliwch am amcan positif (positive intention) a symud y saets o gwmpas yr ystafell gan gofio canolbwyntio ar y corneli yn ogystal â’r canol.