Tanysgrifiwch Heddiw
Ein cylchgrawn
Cara
Oleua dy lolfa,
Mae’i ddawn hybu hamddena’n
Ddi-ail – mae’n hynod o dda!
Elin Meek
Pwy ydyn ni
Cafodd cylchgrawn Cara ei sefydlu yn 2019 gan fam a merch, Meinir ac Efa.
Mae gan Meinir brofiad yn y byd cyhoeddi ers 2007 ac mae Efa yn gweithio fel cyfieithydd ers 2014.
Mae swyddfa’r cwmni ym mhentref Llandre, ger Aberystwyth, lle mae Meinir yn byw, a lle magwyd Efa, ond mae Efa bellach yn byw yng Nghaerdydd ar ôl graddio o’r brifysgol yno.
Golygydd copi: Huw Meirion Edwards
Dylunydd: Tanwen Haf (www.whitefiredesigns.co.uk)
Colofnwyr a chyfranwyr rheolaidd:
- Lisa Angharad
- Helen Angharad Humphreys
- Efa Lois
- Bethan Sayed
- Sara Gibson
- Eiry Palfrey
Cylchgrawn print yw Cara, sy’n cael ei gyhoeddi 3 gwaith y flwyddyn, ym mis Mawrth, Gorffennaf a Tachwedd.
Erthyglau
Dyma enghreifftiau o erthyglau rheolaidd cylchgrawn Cara – Cymraes Dramor, Mam a Merch, Ffasiwn, a Bwyd a Diod:
Blog
Darllen
A ’nes i ddigon?
Mae Gwenllian Davies yn fam ac yn feddyg. Ar hyn o bryd mae’n Ymgynghorydd Gofal Lliniarol yn ysbytai Abertawe ac roedd hi’n gweithio ar y wardiau COVID dros y pandemig. A hithau’n Sul y Mamau heddiw, a Dydd Cofio Covid a Dydd Gŵyl Dewi newydd fod (a’r düwch yn amharu...
PICE AR Y MAEN, SIWGR A SBEIS
Mae Yasmin Begum yn trafod pice ar y maen, a pha mor ddiflas fydden nhw heb y sbeisys a’r siwgr sydd wedi dod i Gymru o bellafoedd byd. “Mae hanes eisoes yn eistedd yn y gadair yn yr ystafell wag pan fydd rhywun yn cyrraedd.” Dionne Brand yn A Map to the Door of No...
Nosweithiau heb gwsg
Mae Sara Davies yn fam i efeilliaid ac yn Ymgynghorydd Cwsg. (Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl hefyd ar meddwl.org) Fel mam i efeilliaid, dwi wedi cael fy siâr o nosweithiau heb gwsg. A dweud y gwir, dydy’r term “noson heb gwsg” ddim cweit yn disgrifio realiti’r diffyg...
Clwb Llyfrau Cara
Cwestiynau
Ble alla i brynu?
Mae Cara ar werth yn eich siop lyfrau leol. Mae rhestr yn yr adran Lle i brynu? Rhowch wybod os gewch chi broblem cael gafael ar gopi. Neu gallwch brynu tanysgrifiad gyda cherdyn banc a chael copi drwy’r post.
Sut alla i danysgrifio?
Mae’n bosib tanysgrifio trwy glicio ar y botwm ar dop y dudalen Hafan, a gallwch dalu am 1–4 blynedd. Bydd Cara yn talu am y costau postio (tua £1.80 y copi yn y Deyrnas Unedig). Gallwch dalu gyda cherdyn banc neu anfon siec.
I anfon copïau dramor byddwn yn codi £5 y copi am bostio, felly bydd 1 flwyddyn yn £12 + £15 = £27.
Alla i gyfrannu syniadau?
Mae croeso i unrhyw un anfon syniadau unrhyw bryd! Y ffordd orau i gysylltu â ni yw dros e-bost – cylchgrawncara@gmail.com
Faint mae’n gostio?
Mae pob copi yn £4 ac mae 3 rhifyn y flwyddyn.